'Brexit yn gymorth i recriwtio myfyrwyr o China'
- Cyhoeddwyd
Mae un o golegau addysg bellach mwyaf y DU yn dweud bod Brexit yn helpu i hybu ei hincwm drwy recriwtio mwy o fyfyrwyr o China.
Bydd Coleg Caerdydd a'r Fro yn agor campws newydd yn Shanghai yn ddiweddarach eleni, all greu dros £3m y flwyddyn.
Yn ôl y corff sy'n cynrychioli'r sector addysg bellach mae colegau yn "addasu i'r realiti o'r hyn mae Brexit yn ei olygu" drwy ddatblygu ffynonellau newydd o incwm, ond yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru "wedi ariannu colegau fel y dylen nhw wneud".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi amddiffyn cyllid i'r rhai ar gyrsiau addysg bellach llawn amser, gan groesawu estyniad Coleg Caerdydd a'r Fro.
Fe wnaeth wyth myfyriwr o China ddechrau ail flwyddyn eu cyrsiau safon uwch yng Nghaerdydd fis diwethaf ar ôl dechrau'r cyrsiau yng nghanolfan Caerdydd a'r Fro yn Shanghai.
'Y ddeinamig wedi newid'
Bydd lle i 200 o fyfyrwyr pan mae'r coleg yn agor ail ganolfan yn ddiweddarach, gyda 40 ohonynt yn dod i astudio yng Nghymru.
Dywedodd y pennaeth, Mike James, y byddai'r ganolfan werth £3m i'r coleg, a bod awydd i gydweithio gyda phartneriaid yn China ers pleidlais Brexit.
"Yn sicr mae'r ddeinamig gyda'n partneriaid o China wedi newid ers refferendwm Brexit ac mae'n canolbwyntio fwy ar Gaerdydd a datblygu'r bartneriaeth ar lefel ddinesig," meddai.
Yn ôl un sydd wedi bod yn astudio yng Nghaerdydd ers mis diwethaf, mae astudio yng Nghymru yn well.
"'Dwi'n meddwl bod safon yr astudio yng Nghymru yn well nag yn China," meddai Zhihui Li.
"Mae 'na fwy o amser i astudio ar ben ein hunain, ond yn China dim ond athrawon yn dysgu a myfyrwyr yn cymryd nodiadau."
Mae'r coleg yn dweud bod llawer o fanteision cymdeithasol a diwylliannol yn dod o'r gwaith mae'n ei wneud yn China, yn ogystal â'r buddion ariannol.
Ond mae'r corff sy'n cynrychioli colegau'n dweud bod dim dewis gan golegau ond edrych am ffyrdd amgen o wneud arian.
Dywedodd Iestyn Davies o Golegau Cymru wrth raglen Sunday Politics Wales bod gwaith Coleg Caerdydd a'r Fro yn "esiampl wych o sut mae colegau'n addasu i'r realiti o'r hyn mae Brexit yn ei olygu".
"Ond yn bwysicach mae'n rhywbeth maen nhw wedi gorfod gwneud am sawl blwyddyn gan nad yw Llywodraeth Cymru wedi ariannu colegau fel y dylen nhw wneud," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn "parhau'n bryderus iawn am beth all Brexit ei olygu" a "methiant Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i flaenoriaethu addysg ôl-16".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n derbyn yr heriau ariannol sy'n wynebu pob sector yng Nghymru o ganlyniad i bolisi llymder Llywodraeth y DU.
"Er y toriadau i'n cyllideb ein hunain, mae cyllid i'r rhai ar gyrsiau addysg bellach llawn amser wedi ei amddiffyn."
Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth yn croesawu estyniad y coleg, ac yn "annog colegau i edrych am ffynonellau gwahanol o incwm ers tro".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2018
- Cyhoeddwyd20 Medi 2018