Statws trysor i ddarganfyddiadau archeolegol Sir Fynwy

  • Cyhoeddwyd
ModrwyFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y fodrwy yma - o'r 12fed neu'r 13eg ganrif - ei chanfod yn Llanbadog

Mae grŵp o ganfyddiadau archeolegol - rhai'n dyddio 'nôl i'r nawfed ganrif CC - o Sir Fynwy wedi cael statws trysor.

Cafodd arfau o'r Oes Efydd, dwy fodrwy aur a blaen strapen arian o'r Oesoedd Canol eu dyfarnu'n drysor gan Grwner Gwent.

Roedd yr arfau, fydd yn cael ei adnabod fel Celc Llanddewi Ysgyryd, yn cynnwys bwyelli, blaen gwaywffon a theilchion cleddyf.

Cafodd yr holl eitemau eu canfod gan aelodau o'r cyhoedd ers 2015.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Celc Llanddewi Ysgyryd yn cynnwys bwyelli, blaen gwaywffon a theilchion cleddyf

Fe gafodd y celc o'r Oes Efydd ei ddarganfod gan dad a mab - Nicholas a James Mensikov - dair blynedd a hanner yn ôl, ac mae'n bosib bod rhai o'r gwrthrychau wedi dod o du hwnt i Brydain gan fod dyluniad y cleddyf yn gyffredin yn nwyrain Ffrainc.

Dywedodd perchennog y tir, David Jones: "Mae'n rhyfeddol meddwl bod y tir yma'n cael ei ffermio 3,000 o flynyddoedd yn ôl."

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r blaen strapen arian yn dyddio o'r Oesoedd Canol

Cafodd y strapen arian ei ganfod ym mis Mehefin 2016 yng nghymuned Goetre Fawr gan David Harrison.

Wedi hynny cafodd fodrwy aur â charreg wyrddlas - o'r 12fed neu'r 13eg ganrif - ei chanfod yn Llanbadog.

Cafodd fodrwy arall ei chanfod hefyd, ond mae'r garreg fechan oedd yn rhan ohoni'n wreiddiol ar goll.

Bydd tri o'r canfyddiadau - y celc, y blaen strapen arian ac un o'r modrwyau aur - yn cael eu caffael gan Amgueddfa'r Fenni.