Parcio ar ochr yr A5 yn 'broblem enbyd' yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
A5Ffynhonnell y llun, Hefin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae ceir yn parcio ar ochr yr A5, gan olygu bod cerbydau'n cael trafferth pasio ei gilydd ar y ffordd

Mae trigolion yn Eryri yn mynnu bod rhaid gweithredu i fynd i'r afael â phroblemau parcio ger Canolfan Ogwen ym mhen uchaf Nant Ffrancon.

Ar benwythnosau mae cerddwyr a dringwyr yn parcio ar ochr y ffordd ar yr A5, gan olygu bod ceir yn cael trafferth pasio ei gilydd a phobl ar y ffordd hefyd.

Awgrym Shan Ashton, sy'n byw gerllaw, yw sefydlu system parcio a theithio o feysydd parcio yng Nghapel Curig a Bethesda, gyda bws yna'n teithio'n rheolaidd rhwng y ddau le.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am ffordd yr A5, bod "gwaith ymchwil yn cael ei wneud i ddarganfod ffyrdd i wella'r sefyllfa gyda'r parcio".

Disgrifiad,

Dywedodd Shan Ashton bod "damwain yn mynd i ddigwydd" ar y ffordd

"Mae hi wedi bod yn broblem erioed ond yn sicr yn yr 20 mlynedd ddiwethaf mae'r broblem wedi gwaethygu," meddai Ms Ashton.

"Yn Nant Peris mae ganddyn nhw ryw fath o system park and ride.

"Dydy o ddim yn berffaith ond mae'n well na chael pobl yn parcio ym mhobman ac ar y pass ei hun.

"Mae o mor beryglus ar ddiwrnodau braf - pobl yn parcio lawr y ffordd fel mae'n troelli am Fethesda.

"Mae gennych chi geir yn dod i fyny, ceir yn mynd i lawr, pobl yn ganol y ffordd ac mae hon yn briffordd - mae'n warthus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn parcio ar ochr y ffordd cyn dringo mynyddoedd yr ardal, yn ôl trigolion

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am ffordd yr A5, bod "gwaith ymchwil yn cael ei wneud i ddarganfod ffyrdd i wella'r sefyllfa gyda'r parcio".

"Bydd yr ymchwil yn ystyried a oes modd ehangu'r llefydd parcio presennol yn yr ardal, a bydd adroddiad ar ganlyniadau'r ymchwil wedi cael ei orffen yn y dyfodol agos," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu bod yn cydnabod bod y problemau gyda pharcio ar ymyl yr A5 yn "broblem enbyd".

Ychwanegodd na fyddai'r awdurdod yn gwrthwynebu ymgynghori ar osod llinellau melyn dwbl ar y ffordd, neu sefydlu system parcio a theithio.