Drakeford a Gething yn lansio ymgyrchoedd Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan, Vaughan Gething and Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Cynulliad Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan, Vaughan Gething a Mark Drakeford yw'r tri yn y ras

Mae dau o'r tri ymgeisydd yn y ras i olynu Carwyn Jones fel arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru wedi lansio eu hymgyrchoedd.

Dywedodd Mark Drakeford y byddai'n uno'r blaid Lafur wedi cyfnod anodd, ac yn cynnig "rhaglen newydd sy'n tynnu mewn i'r ganrif newydd y pethau pwysig i'n plaid dros y blynyddoedd".

Fe amlinellodd Vaughan Gething gynlluniau am fargen newydd i Gymru, sy'n cynnwys polisïau ar ysgolion, rhai sydd wedi bod mewn gofal a'r henoed.

Bydd y trydydd ymgeisydd, Eluned Morgan, yn lansio ei hymgyrch cyn diwedd yr wythnos.

Mae Carwyn Jones yn bwriadu rhoi'r gorau i'w swydd ar 11 Rhagfyr a bydd ei olynydd yn cymryd yr awenau y diwrnod canlynol.

Wrth lansio'i ymgyrch mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, fe bwysleisiodd Mr Drakeford ei gysylltiadau â Rhodri Morgan a Jeremy Corbyn.

Dywedodd nad oedd erioed wedi difaru'r ffaith mai ef oedd yr unig weinidog yng nghabinet Llywodraeth Cymru i gefnogi Mr Corbyn yn 2015.

Gan ddisgrifio Mr Morgan fel "mentor", dywedodd fod gweithio fel uwch gynghorydd i'r cyn-brif weinidog cyn iddo'i olynu fel AS Gorllewin Caerdydd wedi rhoi "cipolwg amhrisiadwy ar sut i arwain".

Yn ôl Mr Drakeford mae ei gefndir fel ysgrifennydd iechyd ac ysgrifennydd cyllid "wedi ei baratoi cymaint a sy'n bosib i wneud y swydd", gan ychwanegu, "ni fydd amser i ddysgu yn y swydd".

Ar y Post Cyntaf, awgrymodd Mr Drakeford hefyd y byddai'n cefnogi pleidlais arall ar adael yr Undeb Ewropeaidd os nad oes "bargen Brexit".

Dywedodd y byddai'n ffafrio hynny ar ffurf etholiad cyffredinol, ond os ddim dywedodd y byddai angen "ffordd arall" i'r cyhoedd benderfynu.

Hefyd ar y rhaglen dywedodd y byddai ei bolisïau'n plesio cefnogwyr Jeremy Corbyn, ond ychwanegodd ei fod ar ochr "radical, sosialaidd" y blaid ers blynyddoedd.

"Dwi'n mynd i siarad am bethau sy'n bwysig i fi, os ydy hynny'n apelio i bobl sydd wedi ymuno â'r blaid yn ddiweddar ar ôl Jeremy Corbyn yna dwi'n meddwl dwi'n mynd i ddweud pethau sy'n mynd i apelio atyn nhw."

Mae Mr Gething wedi addo cael gwared ar ffioedd dysgu i bobl sy'n gadael gofal, darparu prydau ysgol am ddim y tu allan i'r tymor ysgol, ac ehangu cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru i rieni sy'n cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant sy'n ymwneud â'r gwaith.

Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd fod angen "trawsnewid y ffordd yr ydym yn delio â thlodi", gan alw am "adolygiad allanol radical" i fesur gwaith y llywodraeth.

Dylai'r ras am yr arweinyddiaeth helpu dod a'r blaid lafur at ei gilydd, meddai Mr Gething, gan gyfeirio at farwolaeth Carl Sargeant ym mis Tachwedd.

Ychwanegodd ei fod yn benderfynol o ymddwyn mewn modd sydd yn "hybu parch", a dylai trafodaeth "ddim fod yn esgus am chwerwder".

'Arweinyddiaeth hirdymor'

Wrth drafod ei gyd ymgeisydd Mr Drakeford, dywedodd y byddai'n "bont" ar gyfer arweinyddiaeth y dyfodol, gan ddweud ei fod o ar y llaw arall yn cynnig "arweinyddiaeth hirdymor".

Yn ôl trefnydd ymgyrch Mr Gething, Mitch Theaker, bydd yr ysgrifennydd iechyd yn cyflwyno polisïau i "helpu pobl drwy gydol eu bywydau" a sicrhau bod y blaid "yna i bobl sydd angen ni".

Fis diwethaf, penderfynodd Llafur Cymru ar drefn un-aelod-un-bleidlais ar gyfer dewis yr arweinydd newydd - system debyg i'r un a ddefnyddiwyd i ethol Mr Corbyn.

Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd.