Mark Drakeford i sefyll yn y ras i olynu Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mark Drakeford yn esbonio ei resymau dros sefyll

Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll am arweinyddiaeth Llafur Cymru - ddyddiau wedi i Carwyn Jones gyhoeddi ei fod am roi'r gorau i'r swydd.

Yr Athro Drakeford sy'n cael ei ystyried gan rai i fod y ceffyl blaen yn y ras, ond mae aelod o'r meinciau cefn wedi dweud y dylid cael enw merch ar y papur pleidleisio.

Dywedodd yr Athro Drakeford ei fod wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll i'w gael "mas o'r ffordd", a'i fod yn sefyll i roi dewis o rywun sy'n "byw yn y canol, y chwith o'r blaid Lafur".

"Dwi yn meddwl mae hi'n bwysig i gael rhywun yn yr ymdrech sy'n cynrychioli y ffordd yna o 'neud pethau a dyna pam dwi wedi 'neud y penderfyniad i sefyll."

Daeth cyhoeddiad Carwyn Jones am ei fwriad i roi'r gorau i'r arweinyddiaeth yn yr hydref yng nghynhadledd y blaid yn Llandudno ddydd Sadwrn.

Dywedodd Mr Jones, y prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru ers 2009, bod y misoedd diwethaf wedi bod "yn rhai tywyll iawn iddo" yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant.

Ymgeisydd 'profiadol'

Mae'r Athro Drakeford, y cyntaf i ddweud ei fod yn bwriadu sefyll am yr arweinyddiaeth, eisoes wedi sicrhau cefnogaeth yr AC Llafur Jane Hutt ynghyd â chefnogaeth Mike Hedges a Mick Antoniw.

Mae'n rhaid i bob ymgeisydd gael pum enwebiad gan ACau - ar wahân iddyn nhw eu hunain.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi bod yn AC Gorllewin Caerdydd ers 2011

Yn siarad fore Mawrth, dywedodd: "Un o'r pethau dwi yn rhoi i'r bobl - dwi yn brofiadol yn y llywodraeth yma - sy'n bwysig mewn cyfnod anodd dros ben, heb arian i 'neud popeth bydd rhaid i ni drio ei wneud."

Ychwanegodd bod angen defnyddio'r "siawns i greu polisiau newydd. I dynnu fewn i'r blaid yr egni o'r nifer fawr o aelodau newydd sydd 'da ni".

Bu'r Athro Drakeford yn ymgynghorydd arbennig i'r cyn-brif weinidog Rhodri Morgan, a dywedodd bod syniadau o araith a helpodd ei hysgrifennu i Mr Morgan yn "dal i fod yn berthnasol heddiw".

"Y syniadau o ddweud ni yma i roi gwasanaethau cyhoeddus, ble mae'r cyhoedd yn eu hariannu nhw a ni yn darparu y gwasanaethau yna trwy y cyhoedd.

"Ble y perthynas yna rhwng ni yn y llywodraeth a pobl Cymru yw un ar sail dinasyddion - nid jyst pobl yn mynd mas i brynu gwasanaethau.

"Ac i drial creu gwlad sy'n fwy cyfartal - mae popeth yn yr araith yna yn dal yn bwysig i fi, a dyna dwi eisiau rhoi i fewn i'r ymdrech yn yr hydref."

Dadansoddiad Gohebydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick

Heb os mae Mark Drakeford yn cychwyn y ras i arwain Llafur Cymru fel y ffefryn gan gyfuno apêl gŵr sy'n ymddangos fel par saff o ddwylo tra'n cael ei uniaethu ag arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Ond gallai cefnogaeth Mr Drakeford i'r arweinydd Prydeinig elyniaethu aelodau'r seneddol Cymreig fydd â llais pwysig yn y penderfyniad os ydy'r blaid yn defnyddio coleg etholiadol i ddewis yr arweinydd newydd.

Does dim arwydd bod ymgeiswyr posib eraill yn bwriadu dilyn esiampl Mr Drakeford trwy lansio'u hymgyrchoedd yn gynnar. Fe fydd pobol fel Vaughan Gething ac Eluned Morgan am brofi'r dyfroedd cyn cyrraedd penderfyniad.

Serch hynny, mae 'na gytundeb cyffredinol o fewn y blaid bod angen etholiad ac y byddai penodi Mr Drakeford yn ddiwrthwynebiad yn gam gwag a allai fod yn niweidiol i'r blaid.

'Pontio gyda'r dyfodol'

Soniodd hefyd ei fod eisiau canolbwyntio ar faterion yn cynnwys tlodi, a'i fod yn credu "yn glir" bod angen newid i system un aelod, un bleidlais i ddewis yr arweinydd nesaf.

Ond ychwanegodd nad yw eisiau arwain y blaid am flynyddoedd gan ddweud ei fod yn awyddus i "bontio rhwng y blaid sydd 'da ni ar hyn o bryd a'r dyfodol".

"Os dwi'n llwyddiannus y bwriad yw i arwain y blaid Lafur trwy'r ail ran o'r Cynulliad yma mewn i'r etholiad nesaf ac mewn i'r Cynulliad newydd."

Dywedodd bod talent o fewn y grŵp Llafur a bod angen rhoi cyfle i un ohonyn nhw yn y dyfodol.

"Mae'n bwysig i ni gael nhw i ddod ymlaen, yn eu dwylo nhw fydd y tymor hir. Pam dwi'n sefyll yw i gael cyfnod iddyn nhw ddod ymlaen, i ddefnyddio y profiadau sydd 'da fi ac i greu y dyfodol fel yna."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dawn Bowden yn dweud y byddai'n hynod siomedig os nag oes enw merch ar y papur pleidleisio

Mae'r Athro Drakeford, sydd wedi bod yn athro ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cynrychioli ochr chwith y blaid ac ef yw'r aelod mwyaf blaenllaw i gefnogi Jeremy Corbyn.

Cafodd AC Gorllewin Caerdydd ei eni yng Nghaerfyrddin ond mae wedi byw yn y brifddinas am dros 30 mlynedd. Mae wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 2011.

Yn 2013 cafodd ei benodi yn weinidog iechyd, ond ers yr etholiad diwethaf mae wedi bod yn ysgrifennydd cyllid ac wedi bod â rhan flaenllaw yn y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth Brexit.

Galw am ymgeisydd benywaidd

Yn y cyfamser mae Dawn Bowden, AC Llafur Merthyr Tudful, wedi galw am enw ymgeisydd benywaidd i fod ar y papur pleidleisio.

Wrth siarad â BBC Cymru ddydd Llun dywedodd nad oedd hi eto wedi datgan cefnogaeth i unrhyw ymgeisydd - er iddi ddweud bod "talent enfawr yn y grŵp" a bod y rhai a oedd wedi cael eu henwi eisoes yn "ymgeiswyr tebygol hynod o gryf".

"Ar y pwynt hwn, dwi'n credu y dylai enw menyw fod ar y papur pleidleisio.

"O ran yr hyn a geisiwn ei wneud yn y blaid ry'n yn anelu at hybu cydbwysedd rhwng y rhywiau."