Cefnogaeth y gymuned beicio modur i fachgen damwain rali

  • Cyhoeddwyd
Riley DexterFfynhonnell y llun, Sheffield Star
Disgrifiad o’r llun,

Mae Riley Dexter eisoes wedi dod i'r brig mewn pencampwriaeth Prydeinig

Mae bachgen saith oed a gafodd ei anafu'n ddifrifol wedi gwrthdrawiad yn ystod sioe beiciau modur yn Llandudno wedi cael ei ddisgrifio fel "bachgen ifanc eithriadol o dalentog".

Mae Riley Dexter o Sheffield mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl ar ôl cael ei gludo yno wedi'r ddamwain ddydd Sul mewn ambiwlans awyr.

Roedd yn perfformio mewn arddangosfa tîm beicio modur ieuenctid ar y prom oedd yn rhan o'r adloniant rhwng cymalau Rali GB Cymru.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud bod dau feic modur oedd yn rhan o'r sioe wedi taro'i gilydd ychydig cyn 11:30 ar ran o ffordd oedd wedi ei chau ar gyfer y rali.

Mewn datganiad ar Facebook, dywedodd un o fudiadau'r gymuned rasio beiciau modur, y British Mini Bike Road Racing Championship bod pawb o fewn y gymuned yn meddwl am Riley Dexter a'i deulu "ar y cyfnod anodd yma".

'Ty'laen, dyn bach'

"Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd oni bai bod Riley mewn cyflwr difrifol iawn," meddai'r datganiad.

"Riley oedd pencampwr British Mini Bike JSM 90 Bambino y llynedd - bachgen ifanc eithriadol o dalentog.

"Rydym oll yn dymuno gwellhad buan iawn i Riley. Ty'laen dyn bach, rydym i gyd y tu ôl i ti."

Mae cefnogwyr wedi danfon dymuniadau gorau i Riley Dexter ai'i deulu ar wefannau cymdeithasol ac mae o leiaf ddwy ymgyrch wedi eu sefydlu ar-lein i godi arian drostyn nhw.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Conwy y bydd ei Dîm Gwarchod y Cyhoedd, "fel yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch, yn ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad unwaith y bydd Heddlu Gogledd Cymru wedi cwblhau eu hymchwiliadau cychwynnol.

Ychwanegodd y cyngor bod "teulu y plentyn yma yn [eu] meddyliau ar hyn o bryd".

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu bod hwythau wedi gwneud ymchwiliadau cychwynnol i'r digwyddiad yma ond fe benderfynwyd bod yr achos y tu hwnt i'w cylch gorchwyl ac yn fater yn hytrach i Gyngor Conwy."