Mam a laddwyd wedi 'ei gadael i lawr' gan yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
Laura StuartFfynhonnell y llun, Facebook

Mae teulu i fam gafodd ei llofruddio gan ei chyn-gariad yn dweud ei bod wedi cael "ei gadael i lawr" gan yr heddlu.

Cafodd Laura Stuart ei thrywanu nifer o weithiau a'i chicio yn ei phen gan Jason Cooper wrth iddi gerdded adre ar ôl noson allan - bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i 18 adroddiad gafodd eu gwneud i Heddlu Gogledd Cymru amdani hi neu Cooper cyn ei marwolaeth.

Dywedodd mam Laura, Liz Griffiths: "Fe wnaethon nhw adael Laura i lawr, ac rwy'n teimlo eu bod wedi ein gadael ni i lawr.

"Fe allen nhw fod wedi gwneud mwy drosti."

Cafodd Cooper ei garcharu am oes gyda lleiafswm o 31 mlynedd dan glo wedi i lys ei gael yn euog o lofruddiaeth yn Ninbych.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn disgwyl am gasgliadau'r IOPC - sydd i fod i gael eu cyhoeddi o fewn y misoedd nesaf - gan ychwanegu na allan nhw "wneud sylw pellach ar hyn o bryd".

Maen nhw'n cael eu hymchwilio oherwydd nifer o gysylltiadau a gafon nhw gyda Laura yn ystod y ddwy flynedd cyn ei marwolaeth yn Awst 2017.

Bu Laura mewn perthynas gyda Cooper am ddwy flynedd, gyda'r berthynas yn troi'n fwy ymosodol wedi iddyn nhw symud i mewn gyda'i gilydd.

Ffynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jason Cooper un tro anfon 421 neges testun i Laura mewn un diwrnod

Dywedodd Ms Griffiths wrth raglen Wales Live ar BBC Cymru: "Roedd Larua'n llawn hwyl, yn weithiwr caled ac yn caru ei phlant a'i theulu, ond roedd o'n gwneud iddi wneud copi oi hamserlenni gwaith fel ei fod yn gwybod yn union pa oriau 'roedd hi'n gweithio.

"Byddai'n paratoi cinio iddo ac fe fyddai'n cerdded i mewn a thaflu'r plat o fwyd ati hi... y plat cyfan.

"Fe drodd yn fwy encilgar... doedd hi ddim yn cael siarad gyda'i ffrindiau. Doedd hi ddim wir yn cael gwneud unrhyw beth oni bai ei fod o gyda hi."

Yn y diwedd fe symudodd Larua yn ôl i fyw gyda'i mam, ac roedd Cooper yn gandryll.

Byddai'n gyrru negeseuon testun ati'n barhaus, ac yn sefyll y tu allan yn y stryd yn disgwyl amdani.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jason Cooper yn apelio yn erbyn hyd ei ddedfryd am lofruddiaeth

"Un tro fe dderbyniodd {Laura} 421 o negeseuon mewn un diwrnod. Rwy'n credu mai un o'r negeseuon olaf iddo anfon oedd 'Well i ti redeg'."

Tri diwrnod cyn iddi farw, aeth Laura at yr heddlu eto.

Eglurodd fod Cooper yn cysylltu â hi yn barhaus ac yn gwrthod gadael llonydd iddi, ond am nad oedd signal ffôn yng ngorsaf heddlu Dinbych, doedden nhw ddim yn medru gweld y negeseuon ar ei ffôn.

Gofynnodd yr heddlu iddi adael ei ffôn gyda nhw, ond roedd angen ei ffôn ar gyfer ei gwaith. Fe wnaethon nhw ofyn iddi basio'r negeseuon ymlaen, ond ni wnaethon nhw glywed ganddi eto.

Gadawodd Laura swyddfa'r heddlu heb wneud cwyn ffurfiol gan ddweud ei bod yn credu y byddai hynny'n gwneud pethau'n waeth.

Ffynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr ymosodiad ar Laura Stuart dridiau wedi'r tro olaf iddi gwyno i'r heddlu am jason Cooper

Yn ôl ei mam, roedd Laura am i'r heddlu siarad gyda Cooper er mwyn ei rybuddio i adael llonydd iddi hi.

"Pe bydde'r heddlu wedi siarad gydag o a dweud wrtho am beidio anfon negeseuon...rwy'n credu efallai y byddai wedi gwrando," meddai Ms Griffiths.

Tri diwrnod ar ôl iddi fod yng ngorsaf yr heddlu aeth Laura allan i ddathlu pen-blwydd ffrind.

Os yw'r materion a godwyd yn y stori yma wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael drwy BBC Action Line.

Cafodd David Roberts, ffrind i Laura, hefyd ei drywanu gan Cooper wrth iddo geisio atal yr ymosodiad. Er i Mr Roberts wella, bu farw Laura ar 13 Awst 2017.

Cafodd Cooper ei garcharu ym mis Mawrth eleni am y llofruddiaeth a'r ymosodiad ar Mr Roberts.

Mae yntau'n apelio yn erbyn hyd ei ddedfryd, a bydd gwrandawiad yn y Llys Apêl ddydd Iau.

Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Neil Harrison o Heddlu Gogledd Cymru: "Ar ran Heddlu'r Gogledd hoffwn unwaith eto estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Laura.

"Yn dilyn marwolaeth drasig Laura, cafodd y mater ei gyfeirio at yr IOPC, ac maen nhw wedi cynnal ymchwiliad annibynnol yn ymwneud â'i chysylltiad gyda'r heddlu cyn ei marwolaeth.

"Mae Heddlu'r Gogledd yn disgwyl am ganlyniadau'r IOPC a'u penderfyniadau parthed y mater yma, ac felly ni allan wneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Dywedodd yr IOPC eu bod wrthi'n cwblhau'r adroddiad a'u bod yn disgwyl ei gyhoeddi o fewn y misoedd nesaf.

Gallwch weld mwy am y stori yma ar raglen Wales Live y BBC yn syth ar ôl Newyddion 10 ar BBC One Cymru ar ddydd Mercher, 10 Hydref.