O leiaf 31 mlynedd dan glo i ddyn lofruddiodd gyn-bartner
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael dedfryd o garchar am oes, gyda lleiafswm o 31 o flynyddoedd dan glo, am lofruddio ei gyn-bartner yn Ninbych.
Bu farw Laura Stuart, 33 oed, ddeuddydd ar ôl cael ei thrywanu wrth adael tafarn yn y dref fis Awst y llynedd.
Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Jason Cooper, 28 oed o Ddinbych, wedi anfon cyfres o negeseuon cas at Ms Stuart yn bygwth ei lladd.
Clywodd yr achos hefyd fod Cooper wedi bod yn yfed mewn bar lleol drwy'r dydd, cyn mynd adref i 'nôl cyllell ar ddiwrnod yr ymosodiad.
Yn ystod yr ymosodiad, cafodd dyn arall, aeth i gynorthwyo Ms Stuart, ei anafu gan Cooper.

Cafodd Laura Stuart ei thrywanu wrth adael tafarn y llynedd
Bythefnos yn ôl, fe gymerodd y rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug lai nag awr i ganfod Cooper yn euog o lofruddio Ms Stuart, ac o glwyfo David Roberts gyda bwriad.
Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Simon Picken wrth Cooper mai "ef a neb arall" oedd yn gyfrifol am farwolaeth Ms Stuart.
Fe rybuddiodd Mr Ustus Picken hefyd y byddai'n rhaid i Cooper dreulio o leiaf 31 mlynedd dan glo cyn y caiff ei ystyried ar gyfer parôl.
Cafodd hefyd ddedfryd o 12 mlynedd dan glo am anafu Mr Roberts, a bydd y ddedfryd honno yn cyd-redeg gyda'r ddedfryd arall.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018