Jac yr Undeb yn hollbwysig i hyrwyddo bwyd Cymru?
- Cyhoeddwyd
Brandio bwyd Cymru'n well oedd un o bynciau trafod Taro'r Post ddydd Mawrth, 9 Hydref; testun sydd wedi bod yn dipyn o bwnc llosg ers Y Sioe Fawr yn Llanelwedd fis Gorffennaf.
Gwylltiwyd llawer gyda'r ffaith bod llawer o gynnyrch y prif Neuadd Fwyd yn cael eu hysbysebu o dan frand a oedd yn cynnwys Jac yr Undeb, yn hytrach na'r Ddraig Goch.
Esboniad gan y Llywydd
Ar y rhaglen esboniodd Llywydd Cymdeithas y Sioe, John Davies bod hyn wedi digwydd oherwydd eleni DEFRA, sef Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion gwledig Llywodraeth Prydain, oedd yn noddi'r Neuadd yn hytrach na Llywodraeth Cymru.
Ddaeth hi'n amlwg yn ystod y rhaglen bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu ymgyrch Gwir Flas wedi gadael gwagle yn y diwydiant ar adeg pwysig.
Sefyllfa aneglur
Mae Wynfford James yn gyn-bennaeth Antur Teifi ac roedd hefyd yn aelod o'r is-adran bwyd ac amaeth yn asiantiaeth datblygu Cymru.
"Rwy'n credu beth sydd angen i'r diwydiant bwyd benderfynu yw os ydyn nhw am farchnata bwyd Cymru i adlewyrchu bwyd sy'n wahanol i ranbarthau eraill yn Lloegr, a rhannau eraill o Brydain.
"Mae aneglurdeb ar hyn o bryd ar yr union hyn mae Llywodraeth Cymru a'r diwydiant yng Nghymru eisiau. Yn aneglurdeb hyn arweiniodd at y sefyllfa eleni yn y Sioe lle roedd Jac yr Undeb yn hedfan tu fas y Neuadd Fwyd.
"Ar un adeg emblem Cymru: Gwir Flas a'r ddraig oedd tu allan i'r neuadd fwyd a dyna fel roedd yn cael ei frandio. Wedi i Lywodraeth Cymru ddileu'r brand, ni mewn sefyllfa nawr lle mae yna aneglurdeb sydd yn cael ei waethygu gan y ffaith nad yw'r Llywodraeth wedi parhau i fuddsoddi i farchnata ac hyrwyddo brand Cymru... oherwydd 'does 'na ddim brand.
Y cam nesa'?
"Mae'n rhaid symud ymlaen a mae angen i'r diwydiant benderfynu sut maen nhw am farchnata a hyrwyddo bwyd o Gymru, yn arbennig o edrych ar y newidiadau sydd yn dod yn sgil Brexit.
"Dwi'n credu fod 'na le i adeiladu ar sail y gwaith mae Hybu Cig Cymru'n gwneud gyda'u brand cig oen a chig eidion, a chael y brand i fod yn fwy nag emblem neu logo. Mae angen i'r negeseuon fod yn glir ac yn gyson."
Ond er mor bwysig yw'r cwestiwn o ba faner sydd ar fwydydd i rai pobl, ydy hi wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth i werthiant ar draws Prydain ac ar draws y byd? Meddai Wynfford:
"Mae digon o ymchwil wedi'i wneud gan Hybu Cig Cymru a chyrff eraill sydd yn dangos fod tarddiad bwyd yn bwysig i bobl.
"Mae cynnyrch lleol, cynnyrch o Gymru, yn bwysig i brynwyr ac hefyd mae'n creu safle arbennig mewn marchnadoedd tramor.
"Yn Ewrop, mae ymchwil Hybu Cig Cymru wedi dangos fod y ffaith fod y cig yn dod o Gymru yn cadarnhau'r ddelwedd o ansawdd a chynnyrch o safon.
"Fel bod ni'n mynd yn agosach at Brexit, efallai bydd Jac yr Undeb yn cael ei ddefnyddio mwy fel y brand, ond mae'n rhaid i'r diwydiant bwyd benderfynu eu hunain os taw dyna beth maen nhw eisiau."
A fyddai hyn yn beth drwg i gyd?
Efallai ddim yn ôl Debbie Rodgers o gwmni Caws Cenarth:
"Ni'n rhoi'r enw Caws Cenarth Cheese a'n baner bach ein hunain sef cosyn o gaws ar ein holl gynnyrch, ond 'so'n ni'n rhoi'r ddraig goch.
"Ni'n treial cael rhyw elfen o'r Gymraeg i pob caws ni'n cynhyrchu a phob caws newydd, ond mae'n bwysig fod pobl Saesneg yn medru dweud yr enw hefyd, fel bod nhw'n medru gofyn am y caws yn y siop.
"Pan ni'n tafod gwerthu yn Lloegr, ni'n gorfod rhoi'r pwyslais ar y ffaith taw cwmni Prydeinig ydyn ni. Er bod y ffaith bod ni'n gwmni Cymraeg yn siarad Cymraeg yn bwysig i'n cwsmeriaid yng Nghymru, yn Lloegr 'dyw e ddim mor bwysig, a felly mae dweud fod ni'n gwmni Prydeinig yn well i ni."
"Felly, petai ymgyrch genedlaethol gyda slogan ganolog fyddai'n clymu'r holl gynnyrch Cymreig at ei gilydd, fyddai Debbie'n gweld hynny o fantais i Caws Cenarth?
"Dwi ddim yn credu fydden ni'n rhoi logo neu sticer gyda slogan fel 'Gwir Flas' ar ein cynnyrch gan fyddai hynny'n cyfyngu'r farchnad i Gymru yn unig. 'Sai'n gweld fyddai o benefit i ni dweud y gwir."
Mewn ymateb i'r drafodaeth ar Taro'r Post, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Deilliodd y brandio a ddefnyddiwyd yn y Neuadd Fwyd eleni o gytundeb masnachol rhwng Sioe Frenhinol Cymru a Llywodraeth y DU.
"Rydym wedi tynnu sylw Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru at ein pryderon ynghylch y brandio a ddefnyddiwyd yn y Neuadd Fwyd eleni a byddwn yn cydweithio mwy gyda nhw wrth gynllunio nawdd y flwyddyn nesaf.
"Bydd cynrychiolaeth dda o Lywodraeth Cymru yn y Ffair Aeaf unwaith eto eleni. Yn unol â'r arfer, fodd bynnag, ni fyddwn yn noddi'r Neuadd Fwyd."
Hefyd o ddiddordeb: