Cyfarwyddwr Clwb Criced Morgannwg yn camu i lawr
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr Clwb Criced Morgannwg wedi rhoi'r gorau i'w swydd ar ôl tymor anodd i'r tîm ar y cae.
Bydd Hugh Morris yn camu o'i rôl, ond yn parhau fel prif weithredwr y clwb.
Cafodd y penderfyniad ei wneud yng nghyfarfod y bwrdd ddydd Iau yn dilyn adolygiad annibynnol allanol ar dymor y clwb.
Fe orffennodd Morgannwg ar waelod ail adran Pencampwriaeth y Siroedd y tymor diwethaf.
Dywedodd Mr Morris mai dyma'r amser cywir i ddod â rhywun â "phersbectif ffres" i'r clwb yn dilyn "perfformiadau siomedig ar y cae".
Bydd mwy o gyhoeddiadau yn yr wythnosau i ddod, meddai'r clwb, yn dilyn cyfarfod y bwrdd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2018
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018