Aaron Ramsey ddim am adael Arsenal yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu Aaron Ramsey yn gapten ar Gymru am ran o'r gêm yn erbyn Sbaen nos Iau

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Aaron Ramsey wedi dweud ei fod am aros gyda'i glwb Arsenal tan ddiwedd ei gytundeb yn yr haf.

Daeth i'r amlwg yn ddiweddar bod trafodaethau rhwng Ramsey a'i glwb ar gytundeb newydd wedi dod i ben yn aflwyddiannus.

Roedd hynny wedi bwydo sibrydion y gallai adael yr Emirates ym mis Ionawr gyda nifer o glybiau'n mynegi diddordeb yn ei brynu

Ond nawr mae Ramsey ei hun wedi dweud: "Rwyf ar gytundeb gydag Arsenal ac rwy'n mynd i wneud fy ngorau y tymor hwn i gyflawni rhywbeth arbennig."

Fel mae pethau'n sefyll bydd gan Ramsey y dewis o arwyddo cytundeb gyda chlwb tramor o 1 Ionawr.

Ymunodd ag Arsenal o glwb Caerdydd yn 2004 am ffi o £4.8m. Ef yw'r chwaraewr sydd wedi treulio'r cyfnod hiraf gyda'r clwb, ac fe sgoriodd goliau buddugol yng Nghwpan FA Lloegr yn 2014 a 2017.

Wrth sôn am benderfyniad y clwb i dynnu'r cynnig o gytundeb newydd yn ôl, ychwanegodd: "Dyna'r penderfyniad y maen nhw wedi'i wneud - mae pethau'n digwydd mewn pêl-droed ac mae'n rhaid i chi gario 'mlaen a gwneud y gorau gallwch chi.

"Mae popeth wedi bod yn mynd yn dda yma. Roedden ni'n dau mewn sefyllfa lle'r roedden ni'n credu ein bod wedi dod i gytundeb, ond mae hynny wedi newid.

"Felly dwi am gario 'mlaen i chwarae pêl-droed a gwneud fy ngorau dros Arsenal, ac fe fyddai'n gadael y mater gyda'r clwb nawr."

Os fydd Ramsey'n aros tan ddiwedd y tymor, fe fydd yn cael ymuno gyda chlwb arall am ddim, ond fe fyddai Arsenal yn medru hawlio ffi amdano os yw'n symud ym mis Ionawr.