Gorffen rhan gyntaf gwaith gwaredu mwd Hinkley

  • Cyhoeddwyd
llong

Mae rhan gyntaf y gwaith o waredu mwd o safle gorsaf niwclear newydd yn y môr oddi ar Fae Caerdydd wedi gorffen.

Dywedodd EDF, y cwmni sy'n adeiladu Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf, bod contractwyr wedi cwblhau'r gwaith.

Roedd ymgyrchwyr wedi mynnu bod profion pellach yn cael eu cynnal ar y mwd, sy'n dod o waelod o môr ger y safle newydd.

Ond dywedodd EDF nad oedd y mwd yn ymbelydrol dan gyfraith y DU, ac nad oedd yn beryglus i bobl.

Bydd ail gyfnod y gwaith yn digwydd yn y dyfodol, gyda'r posib y bydd hynny yn 2020.