Ioan Gruffudd yn delio â gor-bryder

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ioan Gruffudd yn trafod ei or-bryder

Yng Ngwobrau BAFTA Cymru yng Nghaerdydd nos Sul, siaradodd Ioan Gruffudd yn agored am ei deimladau o or-bryder.

Roedd yr actor o Gaerdydd wedi cael ei enwebu am wobr y prif actor am ei ran yn y gyfres Liar, ac er ei fod yn falch o fod yn ôl yng Nghymru, soniodd pa mor anodd yw hi iddo mewn achlysuron mawr o'r fath.

"Dwi'n diodde' o anxiety yn aml ac mae e'n mynd yn waeth wrth i fi fynd yn hŷn. Felly mae ymarferion 'ma gen i ar gyfer y math yma o achlysuron.

"Mae'n od - 'sa chi 'di ngweld i yn y car nawr, o'n i'n gwneud yr holl ymarferion anadlu 'ma, yna ti'n bwrw'r carped coch a ma'r holl bethe ti wedi eu dysgu yn dod yn ôl ac mae'r wên yn dod ar fy ngwyneb!"

Soniodd hefyd ei fod yn falch iawn o fod yn ôl yng Nghymru, yn enwedig mewn cyfnod pan mae'r diwydiant ffilmiau a theledu yn ffynnu yma.

"Mae'n anghredadwy. Mae ei weld i mi, y foment nes i adael a phenderfynu symud i LA, ddaeth yr holl waith lawr i Gaerdydd!

"Dwi wrth fy modd fod 'na shwt gyment o waith yma; mae'n wych i'r ddinas ac i Gymru ac i'r Gymraeg. Mae'r talent gyda ni tu flaen a tu ôl y camera a'r holl gyfleusterau.

"Ac mae gen i ffrindiau sydd yn cael y cyfle i ddod i weithio i Gymru, sydd erioed wedi bod yma o'r blaen. Mae Lin-Manuel Miranda wedi bod yma, mewn difri' calon! Roedd hi'n anhygoel gweld ei negeseuon trydar, dolen allanol pan oedd e 'ma.

"Mae e sicr yn rhoi Cymru ar y map yn rhyngwladol. Mae'n bwysig iawn a dwi'n browd iawn."

Hefyd o ddiddordeb: