Cyn-bennaeth i adael Cymru oherwydd y Gwasanaeth Iechyd

  • Cyhoeddwyd
Siobhan McClelland
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Siobhan McClelland bod problemau gyda strwythur y GIG yng Nghymru

Mae un o gyn-reolwyr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi dweud ei bod yn bwriadu gadael Cymru oherwydd gwendidau'r gwasanaeth.

Dywedodd Siobhan McClelland wrth BBC Cymru ei bod wedi colli hyder yn y GIG yng Nghymru yn dilyn profiadau ei gŵr sydd yn cael triniaeth ar gyfer canser y prostad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn cryfhau rheolaeth y GIG er mwyn gwella perfformiad.

Mae Ms McClelland yn academydd blaenllaw sydd wedi bod yn aelod o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Phwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans y GIG.

'Colli ffydd'

Eglurodd Ms McClelland bod gan ei gŵr ganser y prostad, a bu oedi cyn iddo gael apwyntiadau gyda meddyg teulu a gwasanaethau diagnostig.

Yn ôl Ms McClelland cafodd sgan ei gamddehongli, ac oherwydd hynny cyfle i sylwi bod y canser wedi lledu.

Dywedodd wrth raglen BBC Cymru Wales Live: "Rydym wedi rhoi ein tŷ ar y farchnad ac yn bwriadu gadael.

"Mae'n rhaid i mi ddweud bod colli hyder a ffydd yn y gofal iechyd yma - nid y staff ond y gofal iechyd yma - yn ffactor allweddol yn ein penderfyniad i symud i ffwrdd,

"Ac unwaith chi'n colli ffydd yna mae'n anodd cael hynny yn ôl."

'Trafferth gweithredu polisi'

Yn ôl Ms McClelland, sy'n byw ym Maenorbŷr yn Sir Benfro: "Mae 'na wagle yn y canol, mae 'na wagle yn Llywodraeth Cymru lle ddylai polisi cadarn, manwl ac arloesol gael ei wneud.

"Does 'na ddim gallu yn y GIG yng Nghymru i greu polisi iechyd arbennig o dda, does 'na ddim gallu 'chwaith i drosglwyddo'r polisi i reolaeth strategol a sicrhau bod y byrddau iechyd yn gweithredu ar hynny."

Hawliodd bod dau ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru, Vaughan Gething a Mark Drakeford, wedi cael trafferth gweithredu polisi.

"Cafodd y ddau drafferthion cael y byrddau iechyd i wneud yr hyn roedden nhw'n gorchymyn gan fod yr atebolrwydd mor wan," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gan weinidogion rymoedd cryf i gyfarwyddo byrddau iechyd, a bod eu perfformiad wedi gwella.

Ychwanegodd eu bod yn "creu trefn reolaeth newydd i'r GIG er mwyn cynnig gwell cefnogaeth a herio'r byrddau iechyd i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol a gwella perfformiad".