Cyfradd ailgylchu Cymru'n gostwng am y tro cyntaf erioed
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyfradd ailgylchu ar draws Cymru wedi gostwng am y tro cyntaf erioed.
Cafodd 62.7% o wastraff awdurdodau lleol ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yn 2017/18, gostyngiad ers y gyfradd o 63.8% yn 2016/17.
Digwyddodd y gostyngiad yn rhannol oherwydd newidiadau i'r ffordd mae data ailgylchu'n cael ei gasglu.
Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, Hannah Blythyn ei bod yn siomedig ond fod Cymru'n parhau i wneud yn well na'r targed cenedlaethol o 58% ar gyfer eleni.
Môn ar y brig
Mae ymdrechion ailgylchu Cymru wedi eu canmol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda chyfraddau llawer uwch na gweddill y DU, ac un arolwg rhyngwladol yn dweud mai'r wlad oedd yr ail orau yn Ewrop, a'r trydydd gorau yn y byd.
Ond yn ôl y ffigyrau diweddaraf bu cwymp yn y gyfradd yn 17 o'r 22 awdurdod lleol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod hynny o ganlyniad i nifer o ffactorau, gan gynnwys newidiadau er mwyn gwella pa mor fanwl yw'r data sy'n cael ei gasglu am wastraff sydd ddim yn dod o gartrefi, fel pren a lludw o ffwrneisiau.
Ynys Môn ddaeth i frig y tabl eleni, gan ailgylchu 72.2% o'u gwastraff, tra bod Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweld y cynnydd mwyaf - gan godi o 57.9% i 68.6%.
Blaenau Gwent (56%) a Sir Benfro (57%) oedd ar waelod y tabl, gan fethu targed statudol y llywodraeth o 58%.
Y targed nesaf sydd wedi'i osod yw ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2024/25, gyda gweinidogion yn ceisio cael gwared ar wastraff yn gyfan gwbl erbyn 2050.
"Rydyn ni'n hynod falch o'n perfformiad ailgylchu yng Nghymru," meddai Ms Blythyn.
"Rydyn ni wedi cyflawni hyn drwy'n polisïau yng Nghymru, gyda thargedau cyfreithiol ar gyfer cynghorau, buddsoddiad mewn isadeiledd ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth i'r cyhoedd.
"Byddaf yn gwneud datganiad ar lafar i'r Cynulliad yr wythnos nesaf yn cyhoeddi camau ychwanegol i wella cyfraddau ailgylchu ymhellach yng Nghymru.
"Cymru yw'r gorau yn y DU, yr ail yn Ewrop a'r trydydd yn y byd o hyd o ran ailgylchu gwastraff cartref. Rydw i'n parhau i ganolbwyntio ar sicrhau mai Cymru yw'r wlad orau yn y byd am ailgylchu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2017
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2016