Dros £400,000 heb ei dalu am brydau ysgol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
cinio ysgol

Roedd dros £400,000 heb ei dalu am brydau mewn ysgolion yng Nghymru hyd at ddiwedd y llynedd, gyda ffigyrau'n dangos fod y ddyled ar gynnydd.

Fe wnaeth 14 allan o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ymateb i gais am wybodaeth ar gyfer 2017/18, ond roedd y ddyled gyffredinol ymysg y saith oedd â ffigyrau llawn ers 2013/14 wedi cynyddu 87% (£114,000) yn y cyfnod yna.

Dywedodd Rowan Davies o wefan Mumsnet y dylai ysgolion gynnig "hyblygrwydd" i osgoi gwneud i rieni deimlo "embaras a chywilydd".

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cael cais am sylw.

Dyledion cinio ysgol ar gyfer 2017/18 (hyd at 31 Mawrth 2018) fesul awdurdod lleol:

  • Blaenau Gwent: £5,771.94

  • Sir Gaerfyrddin: £61,011

  • Ceredigion: £38,190.46

  • Caerdydd: £9,000.78

  • Conwy: £26,192.20

  • Sir Ddinbych: £46,731.27

  • Gwynedd: £85,589.47

  • Merthyr Tydfil: £46,575. 48

  • Sir Fynwy: £11,052

  • Casnewydd: £17,171

  • Powys: £46,164.55

  • Rhondda Cynon Taf: £770.56

  • Abertawe: £18,600

  • Torfaen: £47,812.60

Yn gynharach yn yr wythnos, cafodd Cyngor Wrecsam eu beirniadu am bolisi newydd allai weld plant ysgolion cynradd yn llwgu os oes unrhyw ddyled ar eu cyfrif cinio ysgol.

Mae'r cyngor wedi ysgrifennu at rieni ar hyd y sir yn eu cynghori bod rhaid iddyn nhw dalu unrhyw ddyledion erbyn 5 Tachwedd, 2018 neu wynebu na fyddai eu plant yn cael eu bwydo.

Mae gan awdurdodau lleol ar draws Cymru bolisïau gwahanol ar y mater.

Yn Sir Ddinbych mae bwydydd poeth yn cael eu "stopio" os yw'r ddyled yn cyrraedd £20, ac mae'r plentyn wedyn yn derbyn brechdan a diod oer "er mwyn sicrhau nad yw'n mynd heb ddim". Does dim cosb ariannol am hyn.

Yn Sir Benfro, does dim trothwy am faint o brydau gallai plentyn yn ei dderbyn os yw eu cyfrif mewn dyled, ond bydd unrhyw ddyledion yn cael eu pasio ymlaen at gasglwyr dyledion ar ôl mis o anghydffurfio i lythyrau.