Troi at Facebook am roddwr sberm er mwyn cael babi

  • Cyhoeddwyd
Traed babiFfynhonnell y llun, YakobchukOlena
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n drosedd i roi sberm at ddefnydd dynol heb fynd trwy'r camau trwyddedig

Mae menywod yng Nghymru sy'n gobeithio beichiogi yn cael eu rhybuddio i beidio â defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i roddwyr sperm.

Mae'r elusen Fertility Network UK yn dweud y gallai menywod beryglu eu hiechyd drwy ddefnyddio samplau sydd heb eu profi, ond mae un ddynes o Gymru wedi dweud wrth BBC Cymru bod y rhestr aros i weld arbenigwyr ffrwythlondeb y GIG yn rhy hir.

Penderfynodd Sophie - nid ei henw cywir - i chwilio ar-lein am roddwr sberm am fod rhaid aros hyd at chwe mis am apwyntiad trwy'r GIG.

Daeth ar draws grŵp Facebook lle mae dynion yn cynnig eu had yn ddi-dâl, ac mae hi wedi defnyddio sberm un o'r rhoddwyr ar-lein.

Mae Sophie yn fenyw sengl yn ei 20au ac mae ganddi blentyn eisoes o berthynas sydd bellach ar ben.

Mae'n awyddus i'w phlentyn gael brawd neu chwaer ond yn dymuno magu teulu ar ben ei hun wedi'r hyn mae hi'n ei ddisgrifio yn "brofiad gwael".

"Doeddwn i ddim wirioneddol eisiau i unrhyw un arall fod yn rhan o fywyd fy mhlentyn," meddai. "Roeddwn i jest eisiau fy mhlentyn fy hun, heb gael tad neu fam arall.

Mynnu archwiliad iechyd

Ar ôl ymchwilio i'r dewisiadau arferol dan y GIG a sylweddoli y byddai 'na oedi, edrychodd i ffyrdd eraill o feichiogi heb orfod bod mewn perthynas.

Daeth ar draws grŵp perthnasol ar Facebook ac fe gysylltodd â dyn oedd yn cynnig had heb godi tâl. Wedi trafod rhwng y ddau fe fynnodd iddo gael archwiliad iechyd rhyw cyn unrhyw gamau pellach.

Wedi iddo yntau gael cadarnhad nad oedd ag unrhyw afiechydon rhyw, trefnodd y ddau i gwrdd â'i gilydd ond wnaeth Sophie ganslo'r cyfarfod wedi i'r dyn ddechrau rhoi pwysau arni i gael rhyw.

Cysylltodd ag ail ddyn trwy'r un grŵp ond y tro hwn fe drefnodd iddo ddanfon sampl ati er mwyn i hithau ffrwythlonni ei hun.

Ar ôl methu â beichiogi mae Sophie'n bwriadu rhoi cynnig arall arni.

Celloedd sbermFfynhonnell y llun, Eraxion
Disgrifiad o’r llun,

Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai sberm sydd heb ei drin dan y rheolau priodol fod yn beryglus

"Dydw i ddim yn credu bod unrhyw beth o'i le hefo fo - mae'n debyg i fynd allan gyda'r nos a chael rhyw gyda rhywun dydych chi ddim yn nabod yn iawn," meddai.

"Mae'n llawer saffach oherwydd mae gyda chi ffurflenni yn dweud nad oes ganddyn nhw afiechydon rhyw, felly rwy'n meddwl bod o'n llawer gwell, a dweud y gwir."

Dan y broses ffrwythlonni artiffisial (IUI) sy'n cael ei gynnig gan y GIG yng Nghymru, mae sberm yn cael ei 'olchi' i greu sampl iach cyn cael ei osof yn y groth.

'Peryglus ac anghywir'

Eglurodd Alice Matthews, cydlynydd yr elusen Fertility Network UK yng Nghymru, bod menywod yn cael gofyn am driniaethau IUI ac IVF ar y GIG yng Nghymru tan eu pen-blwydd yn 43 oed, ond mae'n bosib gwrthod ceisiadau unigolion sydd dros eu pwysau neu'n ysmygu.

Mae 'na darged i'w trin o fewn chwe mis ar ôl cael eu cyferio.

Dywedodd na fyddai'r elusen byth yn argymell i fenywod ddefnyddio grwpiau ar wefannau cymdeithasol fel Facebook i ddod i hyd i roddwyr oherwydd dyw'r sberm ddim yn cael ei sgrinio'n briodol.

Yn ôl Dr Peter Bowen-Simpkins, Cyfawyddwr Meddygol y London Fertility Clinic, mae'r grwpiau'n "beryglus ac yn hollol anghywir".

Mae'n awgrymu bod merched yn eu defnyddio am fod gwasanaeth clinigau preifat yn gostus, ac er mwyn gweld lluniau'r darpar roddwr. Mae hynny'n cael ei ganiatáu yn yr Unol Daleithiau ond ddim yn y DU.

Prawf beichiogrwydd positif
Disgrifiad o’r llun,

Dywed un rhoddwr sberm yng Nghymru eu bod yn helpu newid bywydau a chreu llawennydd

'Creu llawennydd'

Mae John - ddim ei enw cywir - yn rhedeg grŵp ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru. Mae wedi cenhedlu wyth o blant ar ôl cyfrannu sberm ac mae tri phlentyn arall ar y ffordd.

Mae'n disgrifio'r rhoddwyr fel dynion "sydd ond eisiau helpu pobol a gwireddu eu breuddwydion".

Mae'r grwpiau, meddai, "yn creu llawennydd ac yn newid bywydau pobol er gwell" ond mae'n derbyn bod yna ochr negyddol hefyd, gan gynnwys unigolion "sydd ond eisiau cael rhyw".

Dywedodd dyn arall - aelod o grŵp Facebook sydd wedi rhoi sberm ar gyfer cwpwl o'r un rhyw oedd yn ei nabod - ei fod eisiau sicrwydd bod perthynas a sefyllfa ariannol darpar rieni yn sefydlog.

Mae'n anghytuno â grwpiau cenhedlu naturiol lle mae'r rhoddwyr yn cael rhyw gyda'r menywod sydd eisiau beichiogi.

Dyw ffrwythlonni eich hun ddim ynddo'i hun yn anghyfreithlon, ond mae'n drosedd i gaffael neu ddosbarthu celloedd cenhedlu heb drwydded HFEA (Human Fertilisation and Embryology Authority).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y tri darparwr gwasanaethau cenhedlu yng Nghymru yn cyrraedd y targed o sicrhau triniaeth ffrwythlonni o fewn 26 wythnos, a'u bod yn "argymell yn gryf" fod cleifion yn defnyddio clinigau trwyddedig sy'n dilyn rheolau sgrinio llym.