Pedair blynedd o waharddiad i chwaraewr RGC

  • Cyhoeddwyd
Maredydd FrancisFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae chwaraewr yn Uwch Gynghrair Rygbi Cymru wedi'i wahardd am bedair blynedd am ddefnyddio cyffuriau gwella perfformiad a sylweddau eraill.

Fe wnaeth Maredydd Francis, sy'n chwarae i Rygbi Gogledd Cymru 1404 (RGC), brofi'n bositif am "gymysgedd" o gyffuriau gan gynnwys nandrolone a testosterone yn dilyn gêm yn erbyn Aberafan ym mis Mawrth.

Chwaraeodd Francis, 24 oed dros 100 o weithiau i RGC ac mae'n gyn-gapten ar y tîm cyntaf. Mae Francis wedi'i wahardd rhag cystadlu mewn unrhyw gamp tan 9 Mawrth 2022.

'Rhybudd i eraill'

Dywedodd Prif Weithredwr UK Anti-Doping, Nicole Sapstead: "Mae hwn yn enghraifft o ddim ond un achos sydd wedi'i weld yn ddiweddar ble mae chwaraewr nid yn unig yn euog o gymryd cyffur i wella perfformiad, ond yn cymryd nifer o sylweddau sydd wedi'i gwahardd.

"Mae'n rhaid i chwaraewr fod yn ymwybodol fod cymryd y fath gymysgedd o gyffuriau gwella perfformiad nid yn unig yn golygu y byddan nhw'n cael eu gwahardd rhag chwaraeon, ond hefyd y bygythiad niweidiol sydd 'na i'w hiechyd.

"Rydym yn gobeithio fod enghreifftiau fel hyn yn rhybudd i eraill," meddai.