Cwpan Pencampwyr Ewrop: Caerlŷr 45-27 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Roedd y canolwr Manu Tuilagi yn ddraenen yn ystlys y Scarlets drwy gydol y gêm
Mae cychwyn siomedig y Scarlets yn Ewrop yn parhau wedi iddyn nhw golli mewn gêm gyffrous yng Nghaerlŷr nos Wener.
Fe sicrhaodd y tîm cartref bwynt bonws ar ôl sgorio pum cais, gyda'r maswr George Ford yn hawlio 20 pwynt gyda'i gicio cywir.
Er i'r ymwelwyr frwydro'n galed, mae'r golled yn golygu bod y Scarlets wedi colli eu dwy gêm agoriadol yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor hwn.
Roedd paratoadau'r gêm yn gyfeillgar iawn gyda Chaerlŷr yn plesio cefnogwyr y Scarlets gyda'u defnydd o'r Gymraeg ar Twitter.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ond ar y cae, roedd hi'n ornest gystadleuol iawn gyda'r ddau dîm yn dangos fflachiadau o chwarae da.
O fewn wyth munud roedd y tîm cartref 10-0 ar y blaen, diolch i gais cynnar Harry Wells a chicio cywir George Ford.
Ond fe darodd y Scarlets yn ôl yn syth diolch i waith da David Bulbring, gyda'r mewnwr Gareth Davies yn saethu dros y llinell wen i roi pwyntiau cyntaf yr ymwelwyr ar y sgorfwrdd.
Roedd y sgôr yn gyfartal diolch i droed dde ddibynadwy Leigh Halfpenny, ond Caerlŷr aeth ar y blaen eto ar ôl i Guy Thompson groesi yn y gornel.
Methu wnaeth Ford gyda'r trosiad, yn wahanol i Halfpenny a oedd yn llwyddiannus gyda'i gic gosb i wneud y sgôr yn 15-13 i'r Teigrod ar yr hanner.

Doedd cais Steff Evans ddim yn ddigon i atal Caerlŷr
Y tîm cartref ddechreuodd yr ail hanner cryfaf gyda chais Sione Kalafamoni - a chicio Ford - yn ymestyn mantais Caerlŷr i 25-13.
Ond yn ôl y daeth y Scarlets, gyda Steff Evans yn sgorio a Halfpenny yn trosi i gau'r bwlch i 25-20.
Ac yna, ar yr awr, aeth y Scarlets ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm - bylchiad Gareth Davies yn torri drwy amddiffyn blêr Caerlŷr cyn pasio i Blade Thompson, wnaeth groesi o dan y pyst.
Ciciodd Halfpenny y gweddillion - 25-27 i'r ymwelwyr.
Ond byr iawn oedd amser y Scarlets ar y blaen, gyda Manu Tuilagi - a oedd yn wych drwy gydol y gêm - yn croesi a Ford yn llwyddo gyda'r trosiad i roi'r Teigrod nôl ar y blaen - 32-27.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Scarlets, gyda'r asgellwr Jonny May yn sicrhau pedwerydd cais a phwynt bonws Caerlŷr gyda 10 munud yn weddill.