Ymosodiad rhyw difrifol yng nghanol Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Mynedfa maes parcio ger QueenswayFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad ym mynedfa maes parcio ger Queensway

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad rhyw difrifol ar fenyw yn ei 30au mewn maes parcio yng nghanol Casnewydd.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger ardal Queensway rhwng 03:30 a 04:00 ddydd Sul.

Dywedodd y llu bod dyn nad oedd y ddynes yn ei nabod wedi ymosod arni ym mynedfa maes parcio wedi'i gloi drws nesaf i adeilad Admiral.

Mae ditectifs yn gobeithio siarad gyda dwy ddynes wnaeth helpu rhoi'r fenyw mewn tacsi wedi'r ymosodiad.