Ateb y Galw: Y cerddor Elis Roberts
- Cyhoeddwyd
Y cerddor Elis Roberts, aelod o'r band Daniel Lloyd a Mr Pinc, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Nesdi Jones yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Anodd d'eud pa atgof oedd gynhara', ond dwi'n cofio swingio ar y cyrtans yn dynwared Tarzan efo Mei, fy mrawd. Disgynnodd y cyrtans, y polyn a'r plaster oddi ar y walia' i'r llawr, cyn i mi sgrialu i ffwrdd a gadael Mei i gymryd y bai i gyd! Sori Mei.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Roeddwn i yn ffan o The X-Files pan yn ifanc, ac un rheswm oedd am fy mod yn ffansio Scully!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan o'n i'n gweithio tu ôl y bar ym Mhortmeirion, nes i gymryd yn ganiataol mai twristiaid oedd y gwesteion i gyd, cyn i mi wneud sylw am deulu oedd yn cerdded i mewn wrth fy nghyd-weithiwr.
Trodd y teulu cyfa' i edrych arnai mewn syndod, a mi nes i droi yn fflamgoch wrth sylweddoli mai Cymry Cymraeg oedden nhw. 'Na i ddim y camgymeriad yna eto!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Pan anwyd Aron, fy ail fab.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bwyta yn swnllyd a blêr!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Felinheli achos mai fanno ma' adra i ni, a hefyd Tafarn y Plu, Llanystumdwy fydd o bosib yn dafarn gymunedol yn y dyfodol...
Mae 'na rywbeth arbennig iawn am Ynys Enlli hefyd ers i mi dreulio wythnos yno yn saethu ffilm, flynyddoedd yn ôl.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Penwythnos fy mhriodas i a Ceri. Teulu a ffrindiau yn canu a dathlu gyda'i gilydd yng Nghricieth... noson fythgofiadwy!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Laid-back, poenwr, anghyson!
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Dwn'im os mai dyma fy hoff ffilm, ond yn sicr The Sting ydi'r un dwi wedi ei wylio fwya' - degau o weithia ers i mi ei wylio am y tro cynta' yn fy arddegau. Dwi wrth modd efo'r ffilm a soundtrack Scott Joplin.
Llyfr - anodd dewis un, wedi darllen lot o lyfrau da! Ga i enwi cyfres? Dwi wedi darllen bob un o gyfres Discworld, Terry Pratchett, felly rheiny am wn i!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Terry Pratchett am ei hiwmor a ffraethineb ac i mi gael ei holi fo yn dwll am y byd Discworld.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n wannabe geek.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cliché mae'n siŵr, ond treulio'r diwrnod efo fy nheulu a ffrindia' mewn parti efo pawb yn jamio a chanu, bwyta ac yfed, mwynhau cwmni ein gilydd. Dim llawer o ots yn lle, dim ond ei bod hi'n braf!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Dibynnu'n llwyr ar sut dwi'n teimlo... weithiau Sympathy for the Devil, neu Gathering Moss, neu Pethau Bychain Dewi Sant, neu Blêr neu Layla, neu Superstition... Pob un yn fy atgoffa o gyfnoda' amrywiol!
O Archif Ateb y Galw:
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cwestiwn hawdd! Mi ddaru ni drafod hwn ar wylia' diweddar yn Croatia. Cwrs cynta' - Pho Bo (cawl o Vietnam); prif gwrs - hwyaden efo sôs ceirios neu eirin; pwdin - pwdin haf.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Ges i gwrdd â Nick Mason, drymiwr Pink Floyd, flynyddoedd yn ôl ar gyfer rhaglen deledu, a mi ddaru o gyrraedd mewn hofrennydd wedi ei baentio efo gwaith celf Pink Floyd. Roedd o'n foi neis, ond yn byw bywyd na fedra i ddychmygu... felly fo 'swn i'n ddewis, jyst i gael profi bywyd fel yna am ddiwrnod.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Barri 'Reslar' Griffiths