Ateb y Galw: Y gantores Nesdi Jones

  • Cyhoeddwyd
Nesdi Jones

Y gantores Nesdi Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Lowri Mai yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gwylio tân gwyllt gŵyl Cricieth efo Mam a Dad ar y maes. Ddim yn siŵr faint oed o'n i. Wnes i grïo trwy'r cyfan ac roedd Dad yn gorfod rhoi'i ddwylo fo ar fy nghlustiau.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Will Smith. O'n i'n obsessed efo'r ffilm Men in Black a Fresh Prince of Bel Air.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Wrth fynd i ffitio ngwisg ar gyfer fy nhrac cyntaf London yn Delhi wnes i lithro lawr y grisiau ar fy nhin a mynd â'r co-star i lawr efo fi! Hyn oedd fy big break ac o'n i eisiau mynd yn ôl i'r gwesty i guddiad!

Ffynhonnell y llun, Nesdi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Nesdi a'i merch fach, Cadi-Glyn

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Bore 'ma, wnaeth fy merch Cadi-Glyn ddeffro, troi rownd a rhoi gwên anferth i mi. Oedd hi mor ciwt. Mi ges i foment emosiynol.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi gwinadd! Dwi'n trio tyfu nhw ond dim lwc!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Top rhiw Caerdyni yng Nghricieth. Fel ti'n dreifio trwy Pentrefelin ti'n cyrraedd y top ac mae'r golygfeydd yn ardderchog. Ti'n gweld y castell, glan y môr ayyb. Dwi wedi byw yn India a nawr ar y Wirral. Felly pan dwi'n ei weld o, dwi'n gwybod dwi adref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nesdi wrth ei bodd â'r olygfa yma o Gastell Cricieth, ac yn gwybod ei bod hi adref pan mae hi'n ei weld

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Www un anodd! Cafodd fy merch ei geni yn y bore. Felly y noson orau yw ennill gwobr best newcomer yn yr UK Bhangra Awards yn 2014. Roedd fy nghariad a rhieni yna a gwnaeth fy ffrind Rahul deithio o India i ddod i ngweld i. Oedd o'n surreal.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Chaotic, blêr, digri. Mae fy sianel YouTube newydd i Motherhood, Music and Madness am ddangos hynna!

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

The Book Thief. O'n i'n hoffi'r naratif gan 'Death' a gweld yr Ail Ryfel Byd drwy lygaid hogan ifanc.

O Archif Ateb y Galw:

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Fy ffrind gorau Minda, wnaeth farw'n sydyn 'chydig o flynyddoedd yn ôl. Oedden ni'n yfed yn nhŷ Mam a Dad ac rhoi y byd yn ei le. Dwi'n methu y nosweithiau yna.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n obsessed efo drag queens! Dwi mynd i sioeau trwy'r amser!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael fy nheulu i gyd at ei gilydd, bwyta lot o fwyd ac yfed digon! 'Da ni'n deulu mawr felly mae o'n anodd ein cael ni gyd at ei gilydd!

Beth yw dy hoff gân a pham?

Ceidwad y Goleudy, ond y fersiwn gan Mynediad am Ddim. Roedd gan Mam a Dad y tâp yn y car ac yn ei chwarae fo bob tro roedden ni'n mynd am ddiwrnod yn y car, felly mae gen i atgofion da o'r gân a dwi wrth fy modd gyda'r band.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nesdi wrth ei bodd â Mynediad am Ddim, a gafodd ei sefydlu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1974

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Scallops wedi ffrio efo chorizo, wedyn risotto madarch. I bwdin, fel arfer pan dwi mynd allan am fwyd dwi'n mynd am trio neu mini desserts platter i fi cael 'chydig bach o bob dim!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy merch. Mae hi'n bedair mis oed a dwi RILI eisiau gwybod beth sy'n mynd trwy ei phen hi pan ma' hi'n tynnu gwynebau gwahanol! Ma' hi'n breuddwydio ac yn chwerthin yn ei chwsg... Am be' ma' hi'n gallu breuddwydio?!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Elis Roberts o'r band Daniel Lloyd a Mr Pinc