Dyn yn gwadu iddo lofruddio'i wraig yn Y Mwmbwls

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod dyn wedi tagu ei wraig i farwolaeth ac yna mynd ati i wneud i'r digwyddiad edrych fel hunanladdiad.

Mae Derek Potter 64 oed yn gwadu cyhuddiad o lofruddio ei wraig yn ei chartref yn Y Mwmbwls.

Fe gafwyd hyd i Lesley Potter, 66, wedi'i chrogi yn ei chartref ar 7 Ebrill.

Dywed yr erlyniad y byddai'r diffynnydd wedi llwyddo i dwyllo'r awdurdodau, ond iddo gyfaddef i fenyw arall mewn tafarn am yr hyn oedd wedi digwydd.

Ar ôl hynny, meddai Elwen Evans QC ar ran yr erlyniad, cafodd ymchwiliad newydd ei gynnal ac fe wnaeth post mortem ddangos fod 30 o doriadau i asennau Mrs Potter.

"Mae'r Goron yn dweud i Mr Potter ladd ei wraig drwy ei thagu gan ddefnyddio ei ddwylo," meddai Ms Evans.

Archwiliad post mortem

"Yna, fe geisiodd gelu beth oedd wedi digwydd drwy smalio ei bod wedi crogi ei hun gyda rhaff....ac fe fu bron i'r twyll lwyddo..."

Yn ôl yr erlyniad, ar y dechrau doedd yr heddlu ddim yn amau fod marwolaeth Mrs Potter yn amheus, ac fe gafodd ei chorff ei ryddhau ar gyfer claddedigaeth.

Ond wythnos cyn i'r corff fynd i'r amlosgfa, daeth gwybodaeth newydd i law'r heddlu.

Dywed Ms Evans fod y diffynnydd wedi cyfaddef i ddynes arall iddo ladd ei wraig, a bod e' hefyd wedi gofyn i'r ddynes honno i symud i fyw gydag ef.

Yn ôl yr erlyniad fe wnaeth archwiliad post mortem hefyd ddatgelu fod gan Mrs Potter nifer o anafiadau mewnol a chleisiau.

Mae'r achos yn parhau.