Bachgen bach tair oed wedi marw mewn gwrthdrawiad fferm
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth plentyn tair oed ar fferm ar ffin Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Cafodd Evan Lloyd Williams ei daro gan gerbyd brynhawn Sul.
Roedd Evan wedi mynd gyda'i dad at dir oedd yn cael ei rhentu gan y teulu ger Llanybydder pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Cafodd yr heddlu eu galw am tua 16:25 ddydd Sul yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng cerbyd a phlentyn ar eiddo preifat.
'Calonnau'n gwaedu'
Roedd Evan yn byw gyda'i rieni a'i frawd a chwaer, ac roedd wedi dechrau mynychu dosbarthiadau yn yr ysgol feithrin.
Mae'r teulu'n byw chwe milltir i ffwrdd o'r fferm, yng Ngorsgoch ger Llanbedr Pont Steffan.
Dywedodd y cynghorydd sir lleol Euros Davies fod y newyddion wedi bod yn sioc fawr i'r gymuned leol ac y byddan nhw'n gwneud popeth i gefnogi'r teulu.
"Mae wedi bod yn newyddion trychinebus iawn, mae pob un mewn sioc a chalonnau yn gwaedu dros y teulu bach yma."
Ychwanegodd Nia Lloyd Thomas, Pennaeth Ysgol Bro Siôn Cwilt: "Roedd Evan yn ddisgybl gwerthfawr, poblogaidd ac yn aelod amhrisiadwy o deulu Ysgol Bro Siôn Cwilt.
"Bydd ei golled yn enfawr i holl gymuned yr ysgol sydd yn dyst o'i bersonoliaeth a'i natur hyfryd.
"Carwn ni oll anfon ein cydymdeimlad diffuant i rieni Evan, ei frawd a'i chwaer fawr ynghyd â'r teulu oll yn ystod y cyfnod ofnadwy o drist ac anodd hwn."
Ymateb heddlu
Mae'r teulu nawr yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Gyda thristwch enfawr gallwn gadarnhau mai'r plentyn a fu farw'n sydyn ger Llanybydder yw Evan Lloyd Williams.
"Yn anffodus, bu farw'r plentyn ar leoliad. Mae ein meddyliau i gyd gyda'r teulu."
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch: "Mae'r Gweithgor yn ymwybodol o'r digwyddiad ac yn gweithio ar y cyd gyda'r heddlu - sy'n arwain yr ymchwiliad yma."