Rhif ffôn meddygol newydd ar gyfer cleifion Hywel Dda

  • Cyhoeddwyd
Galwad
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rhif newydd 111 yn cael ei lansio ar 31 Hydref

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi lansio rhif ffôn newydd ar gyfer cleifion yr ardal i'w gwneud hi'n haws iddyn nhw gael gafael ar eu gwasanaeth ar gyfer achosion sydd ddim yn rhai brys.

Bydd y rhif newydd 111 yn cael ei lansio ar 31 Hydref, gyda'r bwriad o wneud pethau'n haws i bobl gael y cyngor, y cymorth neu'r driniaeth berthnasol, gyda'r cyfan mewn un man.

Fe gafodd y rhif ffôn ei lansio fel cynllun peilot y llynedd ac mae eisoes wedi bod yn gweithredu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ers 2016 ac ym Mhowys eleni.

Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Richard Bowen: "Ar hyn o bryd yn y GIG, mae mynediad at wasanaethau gofal brys yn ddryslyd iawn. Yr hyn yr ydym am ei wneud yn Hywel Dda yw symleiddio pethau."

Disgrifiad o’r llun,

Richard Bowen yw Cyfarwyddwr y Prosiect

Sut mae'n gweithio?

Yn wahanol i 999, rhif ar gyfer achosion sydd ddim yn argyfwng yw 111.

Mae'n cyfuno dau wasanaeth sydd wedi gweithredu ar wahân yn y gorffennol:

  • Galw Iechyd Cymru - gwasanaeth cenedlaethol 24 awr y dydd ar gyfer cyngor iechyd cyffredinol, dan reolaeth y gwasanaeth ambiwlans;

  • Gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau, sy'n cael ei redeg gan fyrddau iechyd lleol.

Ar ôl galw 111 mae claf yn rhoi manylion sylfaenol.

Yn dibynnu ar ei natur, fe all yr alwad gael ei drosglwyddo i nyrs, fferyllydd neu feddyg all roi cyngor, awgrymu triniaeth, adnewyddu presgripsiynau, trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb neu alw ambiwlans.

'Effeithiol ac Effeithlon'

Ychwanegodd Mr Bowen: "O hyn ymlaen, dim ond deialu 111 y bydd yn rhaid i chi ei wneud a byddwch yn cael eich cyfeirio at un o'r amrywiaeth o opsiynau gwahanol."

Dywedodd Dr Richard Archer, Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau Arweiniol Hywel Dda ar gyfer y gwasanaeth 111: "Ar adeg pan fo llwythi gwaith yn cynyddu ac yn mynd yn fwy heriol, mae'n wych gallu gweithio gyda grŵp ehangach o gydweithwyr proffesiynol, gan gynnwys nyrsys a fferyllwyr.

"Bydd hyn yn sicrhau bod ein cleifion yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen, a hynny mewn modd mor effeithiol ac effeithlon â phosibl."