Sefyllfa i gleifion ME yng Nghymru yn 'warthus'
- Cyhoeddwyd
Mae'r sefyllfa i bobl yng Nghymru sy'n dioddef o'r cyflwr ME, neu syndrom blinder cronig, yn "warthus", yn ôl un arbenigwr yn y maes.
Bydd elusennau yn cynnal protest yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher i ddangos ffilm am yr afiechyd.
Mae Jan Russell, o WAMES (Cymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru), wedi galw'r diffyg diagnosis a'r diffyg cyngor ar symptomau yn "grisis iechyd a gofal cymdeithasol, hyd yn oed yn grisis dyngarol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai "byrddau iechyd yng Nghymru sy'n gyfrifol am ofynion gofal iechyd eu poblogaethau".
Yn siarad ar raglen Eye On Wales y BBC, dywedodd Charles Shepherd, ymgynghorydd meddygol i'r Gymdeithas ME: "O fy mhrofiad i â chleifion yng Nghymru, mae llawer o feddygon teulu yn dal i fod yn ansicr iawn ynghylch sut i roi diagnosis i'r salwch hwn.
"Maen nhw'r un mor ansicr ynghylch sut i reoli'r salwch.
"Mae pump o wasanaethau oedolion yng Nghymru ond nid oes yr un ohonyn nhw'n cael ei arwain gan feddyg amlddisgyblaethol, a dyna beth ddylai'r gwasanaethau hyn fod.
"Ar y cyfan, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn warthus."
Camgymryd ME am iselder
Mae Emma-Jayne Lloyd, sy'n 39 oed ac o Gaerdydd, wedi dioddef o symptomau ME ers roedd hi'n 18 oed, ond dim ond y llynedd y cafodd hi ddiagnosis swyddogol bod ganddi'r cyflwr.
"Dychmyga godi yn y bore ac mae'r hangover, ffliw a'r jet-lag gwaetha' ti byth wedi'i gael, wedi cymysgu gyda'i gilydd," meddai.
"Wedyn dychmyga dy fod yn codi bob dydd yn teimlo fel'na. Dyna beth yw ME.
"Mae'r boen reit trwy'r corff, ti wedi blino cymaint a ti mor wan ti ddim yn gallu codi, neu wisgo, neu drio gwneud bwyd - mae popeth yn anodd.
"Mae'n rhaid meddwl am bopeth ti'n ei wneud, achos mae popeth yn achosi poen, neu'n gallu achosi i ti orfod mynd 'nôl i'r gwely a chysgu."
Am flynyddoedd roedd meddygon yn credu mai iselder oedd ganddi, ac mae Ms Lloyd yn dweud mai dim ond nawr mae gweithwyr iechyd yn dechrau deall ME.
Dywedodd bod clinig ac ymgynghorwyr ME ar gael yn Lloegr, ond nad oes darpariaeth o'r fath yng Nghymru.
"Does dim byd yn y gwaed, so maen nhw i gyd yn meddwl mai rhywbeth meddyliol yw e," meddai.
"Does dim meddyginiaeth, dim ymgynghorwyr, dim clinig yma.
"Os ti'n torri dy fraich neu os oes canser 'da ti, ti'n gwybod dy fod yn gallu mynd i rywle ac mae rhywun gydag arbenigedd yn gallu siarad 'da ti - ond does 'na neb gydag arbenigedd ar ME yng Nghymru."
'Cynnydd yn araf'
Yn 2014, cafodd argymhellion eu gwneud i Lywodraeth Cymru ar sut i wella diagnosis ar lefel gofal sylfaenol, yn ogystal â thrin a rheoli symptomau ar lefel gofal sylfaenol ac eilaidd.
Cafodd grŵp gweithredu ei sefydlu yn 2015 i weithio gyda Byrddau Iechyd Lleol ar draws Cymru i wneud yr argymhellion hyn yn weithredol.
Dywedodd Owen Hughes, sy'n cadeirio'r grŵp gweithredu, bod "cynnydd wedi bod yn araf".
"Mae yna rai gwasanaethau da iawn yng Nghymru ac mae'n drueni nad oes gan bawb y gwasanaethau hynny ar garreg eu drws," meddai.
"Mae hynny'n rhan o rôl y grŵp gweithredu - i rannu arferion da a sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau o ansawdd uchel."
Beth ydy ME?
Mae tua 13,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o ME (Myalgic Encephalomyelitis), neu syndrom blinder cronig (CFS).
Mae 70% o bobl sydd gyda'r afiechyd yn ferched - ac mae'n fwy tebygol o daro pobl rhwng eu hugeiniau drwodd i'w 50au.
Mae'r afiechyd fel arfer yn cael ei sbarduno gan haint firol.
Mae'r symptomau'n cynnwys blinder y cyhyrau sy'n cael ei achosi gan weithgaredd, yn aml iawn gyda phoen, yn ogystal â symptomau niwrolegol fel colli cof am gyfnod byr a 'niwl ymennydd'.
Gall cleifion hefyd gael problemau gyda chydbwysedd, gallu canfod geiriau a diffyg rheolaeth tymheredd.
Does dim gwellhad llwyr i'r cyflwr, ond mae modd gwella symptomau gyda diagnosis cynnar a gyda'r cyngor cywir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018