Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-1 Blackburn Rovers

  • Cyhoeddwyd
Connor RobertsFfynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Connor Roberts ei gôl gyntaf dros Gymru ym mis Medi

Fe ddaeth Abertawe yn ôl o 0-1 i hawlio buddugoliaeth a thriphwynt hollbwysig yn erbyn Blackburn Rovers yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Roedd amddiffynnwr Cymru, Connor Roberts, ymhlith y sgorwyr wrth i'r Elyrch ennill 3-1 yn Stadiwm Liberty.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen diolch i gic gosb y capten Charlie Mulgrew.

Ond gyda llai na hanner awr i fynd, fe sgoriodd Abertawe ddwy gôl gyflym - gôl i'w rwyd ei hun gan David Raya Martin, ac yna ergyd gywir gan y Cymro Connor Roberts.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Connor Roberts

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Connor Roberts

Fe seliodd Bersant Celina y fuddugoliaeth gan sgorio gyda phum munud yn weddill.

Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch yn codi i'r wythfed safle yn y Bencampwriaeth wedi 14 gêm.