Llenyddiaeth Cymru i gadw cyfrifoldebau
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhellion fyddai wedi golygu fod Llenyddiaeth Cymru yn colli llawer o'i gyfrifoldebau.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, y dylai'r corff yn hytrach weithio'n fwy agos gyda Chyngor Llyfrau Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Fe wnaeth arolwg annibynnol dan gadeiryddiaeth yr Athro Medwin Hughes yn 2017 ddweud y dylai'r rhan fwyaf o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru gael eu trosglwyddo i'r Cyngor Llyfrau.
Roedd yr adroddiad hefyd yn feirniadol o'r modd yr oedd Llenyddiaeth Cymru yn cael ei reoli.
Dywedodd llefarydd ar ran Llenyddiaeth Cymru eu bod yn croesawu'r newyddion diweddaraf.
Cafodd Llenyddiaeth Cymru ei sefydlu yn 2011 gyda'r nod o gefnogi awduron ac i hybu llenyddiaeth.
Mae'r corff yn darparu ysgoloriaethau i ddatblygu awduron, a hefyd yn gyfrifol am ganolfan Tŷ Newydd ac am drefnu gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn.
Daw ymateb Llywodraeth Cymru yn sgil casgliadau un o bwyllgorau'r Cynulliad, wnaeth hefyd ymchwilio i'r maes.
Fe wnaeth y pwyllgor ddweud mai bach iawn oedd y dystiolaeth i ddweud nad oedd Llenyddiaeth Cymru yn gorff addas i dderbyn arian cyhoeddus, na chwaith ei fod ar fin chwalu.
Mewn llythyr i gadeiryddion y tri chorff - Llenyddiaeth Cymru, y Cyngor Llyfrau a Chyngor y Celfyddydau - fe alwodd yr Arglwydd Elis-Thomas am fwy o gydweithio.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas y dylai Llenyddiaeth Cymru gadw cyfrifoldeb am Lyfr y Flwyddyn, ond bod angen mwy o gydweithio gyda'r Cyngor Llyfrau a chyrff eraill.
Mae hefyd yn galw am gynllun sy'n caniatáu ymateb i feirniadaeth ac am ystyried y ffordd orau i asesu dylanwad masnachol y seremoni wobrwyo.
Dywed yr Arglwydd Elis-Thomas y dylai'r modd y mae grantiau Llenyddiaeth Cymru a'r Cyngor Llyfrau yn cael eu rhoi i awduron gael ei uno.
Ond awgrymodd na fyddai hynny'n golygu trosglwyddo'r cyfrifoldeb o un corff i'r llall ond yn hytrach sefydlu grŵp cydweithiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llenyddiaeth Cymru: "Rydym yn cytuno â phwyslais y Gweinidog ar gydweithio pellach, ac edrychwn ymlaen at gryfhau'r perthnasau strategol gyda'n partneriaid er budd y sector gyfan."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddod a'r arolwg i ben.
"Mae'r Gweinidog Diwylliant wedi dod â misoedd o ansicrwydd ben drwy benderfynu y dylai'r Cyngor Llyfrau a Llenyddiaeth Cymru ymdrechu i'r eithaf gan ddefnyddio eu cryfderau," meddai llefarydd.
"Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych ymlaen at gefnogi'r nod yma o gydweithio."
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru eu bod yn falch bod Llywodraeth Cymru "parhau â'i chefnogaeth i lenyddiaeth yng Nghymru".
"Mae gweithio mewn partneriaeth yn cryfhau ein gwasanaethau ac yn hwyluso ein cenhadaeth, nid yn unig i gefnogi'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, ond hefyd i hyrwyddo gwerth a phleser darllen drwy amrywiaeth eang o weithgareddau ar hyd a lled Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd20 Medi 2017
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2017