Llenyddiaeth Cymru: Mwy o amheuon ACau am adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Llenyddiaeth Cymru

Mae'r dadlau'n parhau am adroddiad i lenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru wedi i un o bwyllgorau'r Cynulliad ystyried y mater.

Dywedodd pwyllgor diwylliant trawsbleidiol y Cynulliad mai "ychydig iawn o dystiolaeth" oedd yna i awgrymu nad oedd Llenyddiaeth Cymru yn ffit i dderbyn arian cyhoeddus, na'i fod mewn perygl o chwalu.

Mae'r pwyllgor hefyd yn dweud bod cynnig i drosglwyddo cyfrifoldebau i'r Cyngor Llyfrau angen ei ystyried ymhellach.

Mynegodd yr ACau bryderon bod y dadlau am y pwnc wedi cuddio materion pwysig eraill.

Fe gafodd Llenyddiaeth Cymru ei greu yn 2011 i hybu a datblygu darllen ac ysgrifennu Cymraeg, ac roedd gan y corff incwm o tua £1.2m yn 2016.

Fe wnaeth adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru - ac a gafodd ei arwain gan yr Athro Medwin Hughes o Brifysgol y Drindod Dewi Sant - ddisgrifio'r sefydliad fel un oedd "heb y sgiliau na phrofiad" i wario arian cyhoeddus.

Wrth ymateb i'r adolygiad, fe wnaeth y gweinidog Ken Skates gyhoeddi yr haf diwethaf y bydd nifer o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru yn cael eu trosglwyddo i'r Cyngor Llyfrau.

Ymhlith y cyfrifoldebau yna oedd gwobrau Llyfr y Flwyddyn, arian i awduron a digwyddiadau llenyddol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cadeirydd yr adolygiad, yr Athro Medwin Hughes, wedi beirniadu rheolaeth Llenyddiaeth Cymru

Ond dywedodd pennaeth Llenyddiaeth Cymru fod yr adolygiad yn llawn camgymeriadau, ac roedd Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn dweud fod yr adolygiad yn un "hynod siomedig".

Mae'r Pwyllgor Diwylliant wedi bod yn ystyried yr adolygiad ei hun, a chanfod:

  • Bod angen "mwy o ddadansoddi o fuddion a goblygiadau" o'r angen i drosglwyddo cyfrifoldebau o Lenyddiaeth Cymru, ac nad oedd "wedi'i argyhoeddi" bod y costau nac ymarferoldeb hyn wedi ei ystyried yn llawn;

  • Bod y dadansoddiad o'r dirywiad mewn cyhoeddi yng Nghymru yn "annigonol" ac yn codi mwy o bryderon am y dystiolaeth oedd gerbron y panel adolygu;

  • Ei fod yn "gynyddol bryderus" am y modd y cafodd materion pwysig o fewn y sector eu taflu i'r cysgod gan y drafodaeth am yr adolygiad;

  • Ei fod am weld "dulliau mwy agored a thryloyw" gan Lywodraeth Cymru wrth benodi aelodau o banelau ymgynghori.

Cyhoeddi dogfennau

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Bethan Sayed AC, eu bod yn "anghyffyrddus" am y modd y cafodd y drafodaeth am yr adolygiad ei osod, ac nad oedd y pwyllgor "wedi'i argyhoeddi" gan beth o'r dystiolaeth.

Mae'r pwyllgor am i Lywodraeth Cymru nawr gyhoeddi'r holl ddogfennau perthnasol, a chofnodion o gyfarfodydd y panel annibynnol.

Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, dywedodd yr Athro Medwin Hughes ei fod wedi "gweld llawer o drahauster" yn y feirniadaeth a gafodd ei adolygiad.

Ond ychwanegodd y byddai aelodau Cynulliad "wedi'u synnu" gan rai o'r hanesion a gafodd am y diwydiant.