Cynlluniau i leihau nifer cynghorwyr Sir y Fflint o 10%

  • Cyhoeddwyd
cyngor sir y fflintFfynhonnell y llun, Matt Harrop

Gallai Sir y Fflint weld gostyngiad o 10% yn nifer eu cynghorwyr os yw cynigion newydd yn cael eu gwireddu.

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi cyflwyno cynlluniau fyddai'n gostwng y nifer o 70 i 63, a chysoni maint wardiau'r sir.

Ar y llaw arall mae'r comisiwn wedi awgrymu cynyddu nifer y cynghorwyr yn awdurdod lleol cyfagos Wrecsam.

Petai'r newidiadau'n cael eu cyflwyno mae'n debygol y bydden nhw'n weithredol erbyn yr etholiadau cyngor nesaf yn 2022.

Dywedodd y prif gomisiynydd Theo Joloza wrth gyfarfod o Gyngor Sir y Fflint ddydd Mawrth y byddai'r newidiadau'n gwneud democratiaeth leol yn decach.

Y bwriad fyddai ceisio sicrhau fod bob ward yn y sir yn cynrychioli tua 1,900 o etholwyr.

Ymgynghoriad

Ar hyn o bryd mae gwahaniaethau mawr rhwng poblogaethau rhai o'r wardiau, gyda'r isaf yn cynrychioli 1,401 o bobl a'r uchaf yn cynrychioli 2,785.

"Ar hyn o bryd mae gwahaniaethau o fewn awdurdodau lleol, ac mae'n ymddangos yn annheg ei bod hi'n bosib i un cynghorydd gynrychioli dros 1,000 o etholwyr tra bod cynghorydd arall yn cynrychioli bron i 3,000," meddai Mr Joloza.

Mae'r wardiau allai gael eu hadolygu yn cynnwys Saltney Cyffordd yr Wyddgrug - sydd â phoblogaeth 45% yn is na'r cyfartaledd - a Saltney Stonebridge, sydd 47% yn uwch na'r cyfartaledd.

"Mae dau ateb - un ai diddymu'r ddwy ward a chael un ward i Saltney fydd gyda dau gynghorydd, neu rannu'r ddwy mewn ffordd wahanol," meddai'r cynghorydd Richard Lloyd, sy'n cynrychioli'r lleiaf o'r ddwy.

Bydd ymgynghoriad ar y newidiadau'n cael ei gynnal rhwng Tachwedd 2018 ac Ionawr 2019, cyn i'r comisiwn gyhoeddi eu cynigion drafft i Lywodraeth Cymru yn hydref 2019.