Ateb y Galw: Y reslar Barri Griffiths
- Cyhoeddwyd
![Barri Griffiths](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/57CD/production/_104177422_barri.jpg)
Y reslar Barri Griffiths, sydd bellach yn perfformio yn y Cirque du Soleil yn Las Vegas, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Elis Roberts yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Chwarae pêl-droed bob prynhawn Gwener yn yr ysgol gynradd.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Jet o Gladiators a Pamela Anderson.
![Pamela Anderson](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0BF1/production/_104175030_pamela.jpg)
Dydi Pamela Anderson ddim wedi newid llawer ers ei chyfnod yn y gwisg nofio coch yn 'Baywatch'
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Disgyn mewn i gachu gwartheg pan o'n i tua 8.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Pigo fy nhrwyn.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Creigiau Dre wrth Tremadog. Does nunlla fel adra!
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3364/production/_98765131_line976.jpg)
O Archif Ateb y Galw:
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3364/production/_98765131_line976.jpg)
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Nos Calan 2007.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Gonest. Cryf. Gwyllt.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Fight Club. Andros o ffilm ddiddorol, efo lot o gwffio!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Orig Williams. Mae 'na gymaint o straeon dwi heb eu clywed.
![Orig Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F651/production/_104175036_orig-williams-001.jpg)
Y reslar Orig Williams, neu El Bandito, oedd hyfforddwr reslo Barri. Bu farw yn 2009
Colli'r cawr Orig Williams, dolen allanol
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gen i draed maint 16.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd i'r gym, chwarae pêl-droed, meddwi.
Beth yw dy hoff gân a pham?
ACDC, Back in Black. Andros o gân dda yn y gym.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cawl llysiau, vindaloo cyw iâr, cacen siocled.
Dylan yn holi’r reslar Barri Griffiths cyn iddo symud i fyw i Las Vegas!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Unrhyw chwaraewr Lerpwl - 'swn i wrth fy modd yn chwarae yn Anfield.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Gwion Tegid