Mwy o amser i holi dyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Cafodd corff Teresa Garner ei ganfod mewn tŷ yn Llys Dewi, Pen-y-ffordd, rhyw ddwy filltir o bentref Mostyn
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cael mwy o amser i holi dyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes yn Mhen-y-ffordd, Treffynnon.
Cafwyd hyd i gorff Teresa Garner, 46 oed, yn ardal Llys Dewi o'r pentref ar ôl i'r heddlu gael eu galw yno ddydd Mercher.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Bell o'r llu: "Rydym yn parhau i gwestiynu dyn 51 oed ar amheuaeth o lofruddio Teresa Garner.
"Fe ymddangosodd o flaen llys arbennig yn Yr Wyddgrug ddydd Iau, pan roddwyd caniatâd i'w holi am 36 awr yn ychwanegol.
"Mae archwiliad post mortem yn dangos fod Teresa wedi marw o ganlyniad i anafiadau sylweddol i'w phen," meddai.
Mae'r heddlu eisoes wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018