'Angen gweithredu ar frys' i amddiffyn bywyd natur

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Angen i Lywodraeth Cymru 'wneud llawer mwy' yn ôl Richard Nosworthy

Mae un o bob 14 o rywogaethau bywyd gwyllt yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu'n llwyr, yn ôl WWF Cymru.

Mewn adroddiad sy'n edrych ar batrymau'n fyd-eang, mae'r elusen yn dweud bod y bygythiadau i fywyd gwyllt a chynefinoedd yn cael eu hadlewyrchu yma hefyd.

Mae'r defnydd o blastig yn cael effaith yng Nghymru, meddai'r corff, gyda llai na hanner o'r 725,000 o boteli sy'n cael eu defnyddio'n ddyddiol yn cael eu hailgylchu.

Dywedodd y WWF fod angen i wleidyddion Cymru weithredu ar frys i amddiffyn ac adfer byd natur.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn flaengar wrth osod sylfeini i ddiogelu bioamrywiaeth a'i bod wedi cyhoeddi grantiau newydd fis diwethaf i gynorthwyo gyda'r gwaith o wrthdroi'r dirywiad mewn adnoddau naturiol.

Yn fyd eang mae adroddiad y WWF yn amcangyfrif bod yna fygythiad i 8,500 o rywogaethau yn sgil newid hinsawdd, colli cynefinoedd, a gor-amaethu.

Mae Dr Gethin Rhys Thomas, o Brifysgol Abertawe, yn arbenigo mewn byd natur ac yn honni fod y darlun yng Nghymru a gweddill Prydain yn waeth o gymharu â'r sefyllfa ar gyfandir Ewrop.

"Yn hanesyddol mae nifer o'r mamaliaid oedd yn bodoli yng Nghymru wedi difodi yn barod, pethau fel y lyncs, yr arth.

"Mae mamaliaid 'da ni'n gyfarwydd iawn gyda nhw yn cael eu heffeithio. Ond hefyd adar, mae sawl rhywogaeth o aderyn yn ddibynnol ar gynefinoedd amaethyddol ac wrth i ni symud tuag at amaeth sy'n fwy intensive mae llai a llai o gynefin, llai o fwyd, llai o gyfleoedd i'r pryfed yn aml, sy'n fwyd i'r adar," meddai.

Ychwanegodd bod hyn yn digwydd yn y moroedd hefyd. "Mae rhywogaethau fel y pâl yn cael eu heffeithio oherwydd bod eu hysglyfaeth nhw, y pysgod bach, sand eels yn lleihau mewn niferoedd oherwydd bod ni'n pysgota ac yn dal nhw hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y rhywogaethau sydd mewn perygl mae'r llygoden ddŵr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am ganolfan Cynrig ger Aberhonddu lle mae rhywogaethau sy'n prinhau yn cael eu gwarchod - yn eu plith cregyn gleision perlog, cimychiaid afon crafanc wen a llygod dŵr.

Eisoes mae dros fil o'r llygod dŵr sy'n cael eu magu yng Nghynrig wedi eu rhyddhau 'nôl i'w cynefin er mwyn ceisio ailsefydlu eu niferoedd, ac yn ôl Rhiannon Bevan o CNC mae'r cymorth hwn yn angenrheidiol:

"Gyda llygod dŵr yng Nghynrig r'yn ni'n gwneud gwaith hanfodol bwysig er mwyn sefydlu poblogaeth wyllt nawr, achos ers yr 80'au mae'r niferoedd wedi gostwng rhyw 90%.

"Felly heb ein help ni nawr, ni fydd 'na unrhyw niferoedd ar ôl, o fewn y deg mlynedd nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae dros fil o'r llygod dŵr sy'n cael eu magu yng Nghynrig wedi eu rhyddhau 'nôl i'w cynefin

Ar flaen y gad

Er yn debygol y bydd Cymru'n methu cyrraedd targedau i leihau allyriadau carbon mae WWF Cymru'n dweud bod Cymru ar flaen y gad o gymharu â gweddill Prydain ar ôl cyflwyno deddfwriaeth benodol sy'n cynnwys y Ddeddf Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Ond mae Richard Nosworthy o'r elusen yn galw ar wleidyddion i weithredu er mwyn atal dirywiad bywyd gwyllt ymhellach.

"Mae'r adroddiad yn dangos bod ni'n wynebu argyfwng byd-eang o ran natur ac mae'n rhaid i ni weithredu ar frys.

"'Da ni ddim jest yn sôn am anifeiliaid egsotig fan hyn fel eliffantod ond hefyd yr anifeiliaid sy'n gyfarwydd i ni yng Nghymru fel draenogod. Ac mae natur mor bwysig i ni - ni'n dibynnu arno fe am y bwyd ni'n bwyta, yr aer ni'n anadlu felly mae'n rhaid i wleidyddion Cymru weithredu ar frys i ddatrys y broblem yma."