Cynnydd yn nifer y marwolaethau ar ffyrdd y gogledd eleni

  • Cyhoeddwyd
Gareth Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gareth Pritchard, Prif Gwnstabl dros dro Heddlu'r Gogledd, fod y llu yn parhau i geisio lleihau'r nifer o farwolaethau ar y ffyrdd

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o farwolaethau ar ffyrdd Gogledd Cymru ers y llynedd.

Cafodd tri dyn ifanc eu lladd mewn gwrthdrawiad yn Ninbych nos Wener 19 Hydref, gan godi'r nifer o farwolaethau ar ffyrdd y rhanbarth eleni i 36.

Yn 2017, 21 a fu farw ar heolydd y rhanbarth drwy'r flwyddyn gyfan.

Fodd bynnag, yn ôl Gareth Pritchard, Prif Gwnstabl dros dro Heddlu'r Gogledd, mae lleihad wedi bod dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Dywedodd Mr Pritchard wrth Newyddion 9 bod ymdrechion i leihau'r ffigwr yn parhau, gyda'r heddlu'n "cario 'mlaen i drio lleihau'r nifer yna ac ymchwilio i'r damweiniau mewn manylder".

Yn ogystal, pwysleisiodd bod "lleihad wedi bod" dros yr 20 mlynedd ddiwethaf a bod y ffyrdd "llawer saffach nag oeddan nhw".

Mae Heddlu'r Gogledd hefyd yn yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad angheuol yn Ninbych.