Cyllideb 2018: 'Dim hawl' i orfodi gwariant ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Nid oes hawl gan y Canghellor Phillip Hammond i orfodi Aelodau Cynulliad i wario arian ychwanegol ar yr M4, meddai'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.
Yn y gyllideb a gyhoeddwyd ddydd Llun, fe awgrymodd gweinidogion Prydeinig y byddai modd i Lywodraeth Cymru fenthyg £300m ychwanegol pe byddai'r arian yn cael ei wario ar ffordd liniaru'r M4.
Dywedodd Mr Drakeford mai dewis ACau fyddai sut i wario unrhyw arian newydd.
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am yr arian newydd er mwyn gallu adeiladu'r ffordd newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi gofyn i San Steffan adolygu'r pwerau benthyg er mwyn iddynt allu ariannu prosiectau isadeiledd uchelgeisiol, a all gynnwys ffordd liniaru'r M4.
Ddydd Llun dywedodd Llywodraeth y DU y bydden nhw'n cefnogi darparu ffordd liniaru'r M4 yn ne Cymru drwy adolygu a fyddai'n fodlon cymeradwyo pwerau benthyg o hyd at £300m yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru er mwyn talu am y cynllun "hollbwysig".
Daeth y cyhoeddiad fel rhan o gyllideb Mr Hammond, a ddywedodd y bydd £550m ar gael i Lywodraeth Cymru fel grant canolog dros y tair blynedd nesaf - er bod Mr Drakeford yn dadlau nad yw cyfran fawr o'r arian yn newydd.
Bydd £332m o arian 2019/20 yn dod o ganlyniad i wariant ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd gafodd ei gyhoeddi gan Theresa May 'nôl ym mis Mehefin.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes â'r hawl i fenthyg hyd at £1bn, ond mae gwrthwynebwyr y cynllun yn credu gall ymrwymo i'r prosiect hwn hawlio rhan fwyaf o'r arian yma, a hynny am flynyddoedd i ddod.
Dywedodd Mr Drakeford wrth raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales ei fod yn ymwybodol o'r adolygiad o bwerau benthyg ers misoedd.
"Dewis Cynulliad Cymru fydd sut mae pwerau benthyg yn cael eu defnyddio, nid y canghellor yn Lloegr na chwaith Ysgrifennydd Cymru," meddai.
"Os yw'r pwerau benthyg yn cynyddu, fel y dylen nhw, yna dylai'r penderfyniadau hynny fod yn nwylo'r Cynulliad."
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn darganfyddiadau ymchwiliad annibynnol i'r posibilrwydd o adeiladu ffordd liniaru'r M4, sydd yn amcangyfrif y byddai'r gost yn fwy na £1.4bn.
Nid oes penderfyniad wedi ei wneud ar y cynllun hyd yma, gyda disgwyl i ACau gynnal pleidlais ym mis Rhagfyr.
'Penderfyniad gwleidyddol'
Dywedodd Mr Cairns os nad yw'r cynllun yn mynd yn ei flaen, "dim diffyg cyllid" ond "penderfyniad gwleidyddol" gan Lywodraeth Cymru fyddai tu ôl i hynny.
"Os yw'r penderfyniad gwleidyddol yno'n cael ei wneud yna byddai rhaid egluro i'r gymuned fusnes sydd wedi bod yn galw amdano ers 20 mlynedd."
Yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law'r BBC, fe ysgrifennodd Mr Drakeford at y trysorlys ym mis Ebrill yn gofyn am fwy o bwerau benthyg er mwyn cyflawni eu "blaenoriaethau buddsoddi", gan gynnwys yr M4.
Y ffordd liniaru oedd yr unig enghraifft benodol a gafodd ei grybwyll.
Y gyllideb yn 'chwerthinllyd'
Gwrthododd Mr Drakeford y syniad fod y cyfnod llymder ar ddod i ben, gan ychwanegu fod yr arian ychwanegol sydd wedi ei glustnodi ar gyfer Llywodraeth Cymru yn "chwerthinllyd".
Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, mae dros hanner y £550m ychwanegol wedi cael ei gyhoeddi 'nol ym mis Gorffennaf.
Dywedodd fod £365m eisoes wedi ei gynnwys yng nghynlluniau cyllideb Llywodraeth Cymru, a bod gweinidogion y DU wedi gwneud penderfyniadau a olygodd fod £169m ohono yn cyfrannu at godiadau cyflog a thaliadau pensiwn.
Dadleuai Mr Cairns fod y gyllideb yn "hwb sylweddol" i Lywodraeth Cymru, a'u bod nhw wedi gweld cynnydd o 4.1% yn eu cyllideb ers 2015.
Ychwanegodd: "Mae rhan helaeth o'r £554m ar gyfer y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf, ac mae hyn yn hwb sylweddol nad oedd gan y Llywodraeth o'r blaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2018