Galw am ymestyn llwybrau beicio Cwm Tawe

  • Cyhoeddwyd
beicwyr

Mae pobl yn rhan o Gwm Tawe yn dweud bod eu galwadau am lwybr beicio newydd yn cael eu hanwybyddu gan yr awdurdodau.

Mae cynghorydd lleol, Hugh Jones, yn dweud ei fod yn ceisio perswadio Cyngor Castell-nedd Port Talbot i osod llwybr beicio rhwng Cwmllynfell ac Ystalyfera ers blynyddoedd.

Mae hefyd yn flin bod cymaint o arian yn cael ei wario ar wella llwybrau yn ne'r sir pan nad oes llwybr ar gael o gwbl ar ben uchaf Cwm Tawe.

Ar hyn o bryd mae yna lwybr beicio sy'n mynd o Abertawe i Ystalyfera, ac un arall sy'n dod o Rydaman ar ochr arall Cwmllynfell yn Sir Gaerfyrddin.

Ond dyw'r ddau ddim yn cysylltu.

'Clywed dim'

Mae'r Cynghorydd Jones am weld llwybr ar hyd hen drac y rheilffordd: "Mae'r llwybr hyn yn dod o Rydaman, trwy Frynaman, ac yn dod i Gwmllynfell.

"Y drafferth yw mae'n dod i ben fan hyn. Y syniad yw bod ni'n cadw fe fynd ymlaen i fynd trwy'r caeau lawr yr hen drac y rheilffordd, lawr i Gwm-twrch ac i Ystalyfera.

"Ac o Ystalyfera ymlaen ni'n gallu mynd i Abertawe neu Bort Talbot a cadw ymlaen. Ond hwn yw'r trwbl.

"Pump neu chwe blynedd yn ôl fe wnaethon nhw survey amdano fe, ond 'da ni wedi clywed dim ers hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hugh Jones yn galw am lwybr rhwng Cwmllynfell ac Ystalyfera

Pob blwyddyn mae cynghorau sir yn derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru i'w gwario ar lwybrau beicio.

Eleni, yr unig brosiectau mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi eu hariannu yw gwelliannau ar y llwybr rhwng Castell-nedd a Llansawel, ac ar y llwybr ger warws Amazon ar Ffordd Fabian.

Maen nhw wedi gwario £540,000 ar y gwelliannau.

Yn ôl y Cynghorydd Jones, dyw hyn ddim yn deg: "Does dim interest 'da nhw o gwbl i wneud y llwybr hwn. Ac mae ishe fe'n wael achos ar ddiwedd y dydd mae'n dod i ben.

"Pishyn ben ydy hwn a does neb am reidio beic os mae'n dod i ben. So ni mo'yn cadw fe'n mynd ymlaen i Ystalyfera ac i Abertawe."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot bod yn rhaid iddyn nhw gynnal a chadw'r llwybrau beicio sydd gyda nhw ar hyn o bryd i gwrdd â safonau Llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth y cyngor gadarnhau eu bod wedi clustnodi'r ardal rhwng Cwmllynfell ac Ystalyfera ar gyfer llwybr beicio newydd rhywbryd yn ystod y 15 mlynedd nesaf, ond dydyn nhw ddim wedi penderfynu ar lwybr pendant eto.