Enwi dynes fu farw wedi llosgiadau siop sglodion Hermon

  • Cyhoeddwyd
Mavis BranFfynhonnell y llun, Heno
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mavis Bran chwe diwrnod wedi iddi gael llosgiadau yn y siop sglodion

Mae dynes a fu farw ar ôl cael llosgiadau mewn siop sglodion yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei henwi gan y crwner.

Bu farw Mavis Bran, 69 oed, yn Ysbyty Treforys ar 29 Hydref, yn dilyn digwyddiad yn y siop yn Hermon ar 23 Hydref.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad yn siop sglodion Chipoteria yn Hermon.

Cafodd dyn 70 oed ei arestio dan amheuaeth o ymosod mewn cysylltiad â'r digwyddiad, a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ambiwlans awyr ei alw i Chipoteria yn Hermon a chludo claf i'r ysbyty

Cadarnhaodd Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru eu bod wedi cludo unigolyn o'r siop i Ysbyty Treforys.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un aeth i'r siop rhwng 12:00 a 15:00 ar 23 Hydref i gysylltu â nhw.

'Colled enfawr' i'r ardal

Dywedodd y Cynghorydd Irfon Jones fod y newyddion yn "ofnadwy o drist", ac yn "hynod o anarferol i'r ardal".

"Roeddwn i'n nabod hi [Ms Bran] yn dda. Roedd hi'n ddynes grêt oedd wastad yn barod i helpu," meddai.

"Roedd hi'n rheoli sawl busnes - tafarndai a siopau sglodion ac ati - ac roedden nhw i gyd yn llwyddiannus. Dwi'n credu y bydd ei marwolaeth yn golled enfawr i'r ardal."