Galw am sicrwydd i stondinwyr marchnad Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Mae un o gynghorwyr Aberteifi wedi galw am sicrwydd i stondinwyr marchnad y dref, yn sgil cynlluniau i gau'r adeilad cofrestredig am 12 mis ar gyfer gwaith adnewyddu gwerth £1.7m.
Mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi yn bwriadu cau'r farchnad tra bod gwaith yn cael ei wneud i osod lifft a chreu mynedfa newydd i'r adeilad o'r maes parcio tu ôl i'r farchnad.
Dywedodd y Cynghorydd John Adams Lewis ei bod hi'n bwysig darganfod lle yn agos at y farchnad ar gyfer y masnachwyr.
Yn ôl Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Howard Williams, mae'n bosib y gallai Canolfan Teifi, sydd erbyn hyn yn wag, gael ei defnyddio fel lleoliad dros dro i'r farchnad.
Dywedodd y Cynghorydd Adams Lewis: "Mae'n rhaid cael sicrwydd bod lle gyda nhw i fynd, falle drws nesa sydd yn wag. Mae angen cydweithio gyda pherchennog yr adeilad."
Mae'r masnachwyr a'r cyngor yn ymwybodol bod angen cwblhau gwaith atgyweirio angenrheidiol i'r adeilad - lle nad oes yna wres na lifft ar gyfer ymwelwyr.
Ychwanegodd y Cynghorydd Adams Lewis: "Gobeithio y bydd modd dechrau ar y gwaith cyn gynted â phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2018
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017