Prif Gwnstabl fydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bydd Prif Gwnstabl y llu yn ymddeol ym mis Gorffennaf cyn cymryd rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Mark Polin wedi bod Brif Gwnstabl ar Heddlu'r Gogledd ers naw mlynedd, ac wedi bod yn blismon am fwy na 30 mlynedd.
Bydd Mr Polin yn cymryd drosodd fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Medi eleni.
Dywedodd Mr Polin: "Dwi'n teimlo'n hynod o ffodus fy mod wedi arwain Heddlu Gogledd Cymru am bron i naw mlynedd a gallaf ddweud yn onest fy mod wedi mwyhau pob diwrnod."
'Cyfoeth o brofiad'
Bydd Mr Polin yn dod yn gadeirydd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn cyfnod anodd.
Daeth cadarnhad ddydd Mawrth gan y Prif Weinidog Carwyn Jones y bydd y bwrdd yn parhau dan fesurau arbennig am y dyfodol rhagweladwy.
Daw hyn ddyddiau ar ôl cyhoeddi adroddiad beirniadol arall am ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething y byddai Mr Polin yn "dod â chyfoeth o brofiad i'r swydd".
"Yn rhinwedd ei swydd fel Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd, mae'n adnabod cymunedau'r gogledd yn dda ac yn ymroddedig iddynt," meddai.
"Bydd yn gallu helpu i arwain y bwrdd iechyd drwy'r cam allweddol nesaf yn y broses wella."
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones wedi ymateb i ymddeoliad Mr Polin gan ddweud: "Hoffwn ddiolch i'r Prif Gwnstabl Mark Polin am ei arweinyddiaeth wych ar adeg pan mae'r Heddlu wedi gorfod dioddef toriadau ariannol sylweddol ac ymgodymu â throseddau newydd ar yr un pryd."
Ychwanegodd Mr Polin: "Dwi'n teimlo'n hynod o ffodus fy mod wedi arwain Heddlu Gogledd Cymru am bron i naw mlynedd a gallaf ddweud yn onest fy mod wedi mwyhau pob diwrnod.
"Mae wedi bod yn fraint i weithio â staff proffesiynol, ymrwymedig a medrus. Mae eu hystwythder a dealltwriaeth wedi bod yn anferthol wrth ystyried y sialens rydym wedi ei wynebu, gan gynnwys newidiadau mawr ac anodd yn ystod cyfnod," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2015