Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC: Hysbysiad preifatrwydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn ymwneud â Chystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC 2019.
Mae'r BBC wedi ymrwymo i gadw eich data personol a data personol eich teulu yn ddiogel. Y BBC yw rheolydd eich gwybodaeth bersonol.
Bydd y BBC yn prosesu'r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi i ni amdanoch eich hun a'ch plant drwy gyflwyno eich cais. Mae gennym reswm cyfreithiol dros gael yr wybodaeth hon: i wneud yn siŵr y gallwn ni ystyried eich cais a chynnal ein cystadleuaeth.
Rydyn ni wedi ystyried effaith ein prosesau arnoch chi a'ch plentyn ac rydyn ni'n fodlon ein bod ni wedi cymryd digon o gamau i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a gwneud yn siŵr ein bod ni wedi cael caniatâd rhiant/gwarcheidwad. Rhaid i bawb sy'n cymryd rhan yn ein cystadleuaeth gadarnhau eu bod wedi cael caniatâd rhiant cyn ymgeisio a byddwn yn cysylltu â'r rhieni yn awtomatig, gan ddefnyddio'r rhif cyswllt y bydd yr ymgeisydd wedi'i roi, i roi gwybod iddynt fod y BBC wedi cael cais eu plentyn.
Rydyn ni'n cydnabod y bydd eich stori weithiau'n cynnwys gwybodaeth sensitif (sy'n cael ei galw'n "ddata categori arbennig") felly byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol i ddefnyddio gwybodaeth o'r fath. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw adeg (oni bai fod eich cais yn llwyddiannus a'ch stori'n cael ei defnyddio gan y BBC) drwy gysylltu â ni gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.
Os nad ydych yn llwyddiannus, bydd y BBC yn dileu eich data ar neu erbyn 31 Mawrth 2020. Bydd gwybodaeth bersonol yr enillwyr yn cael ei storio am gyfnod o ddwy flynedd at ddibenion rheoleiddio. Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.
Os ydych am dynnu'n ôl o'r gystadleuaeth neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y ffordd rydyn ni'n trin eich data, anfonwch e-bost: youngreportercompetition@bbc.co.uk
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau o dan y ddeddf diogelu data ac i gael gwybodaeth gyswllt ein Swyddog Diogelu Data, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd y BBC.
Os byddwch yn mynegi pryder wrth y BBC am y ffordd rydyn ni'n trin eich data ac os nad ydych chi'n fodlon ar ein hymateb, gallwch fynegi pryder wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2019