Dynes wedi marw o'i hanafiadau ar ôl gwrthdrawiad Bwcle

  • Cyhoeddwyd
Ffordd GaerFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau fod car Vauxhall Astra glas wedi gwrthdaro gyda pherson nos Fercher

Mae dynes 87 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yn Sir y Fflint nos Fercher.

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol wedi'r gwrthdrawiad ar Ffordd Caer ym Mwcle am tua 17:30.

Dywedodd yr heddlu bod y ddynes wedi marw o'i hanafiadau nos Iau.

Mae swyddogion yn parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd y digwyddiad neu oedd yn teithio ar y ffordd adeg y gwrthdrawiad.