‘Croeso cynnes’ i ŵyl lyfrau gyntaf Aberaeron
- Cyhoeddwyd
Bu gŵyl lyfrau gyntaf Aberaeron dros y penwythnos yn ddathliad o dalent gorllewin Cymru, medd y trefnwyr.
Daeth nifer ynghyd i weld darlleniadau a chymryd rhan mewn gweithdai gafodd eu trefnu gan berchnogion Gwisgo Bookworms, siop lyfrau'r dref.
Yn ôl un o'r trefnwyr, cafodd yr ŵyl "groeso cynnes" a "derbyniad positif" a'r gobaith yw adeiladu ar ei llwyddiant y flwyddyn nesaf.
Daeth nifer o lenorion lleol fel Meleri Wyn James, Megan Haynes a Peter Stevenson i gymryd rhan.
Datblygiad naturiol
Wrth gymryd awenau siop lyfrau Aberaeron fis Medi'r llynedd, dywedodd Karen Gemma Brewer, un o'r perchnogion, ei bod wedi cynnal digwyddiadau'n gyson i roi llwyfan i awduron lleol.
"Roedd trefnu gŵyl lyfrau felly'n ddatblygiad naturiol," meddai.
Gyda phrofiad yn darllen ei gwaith ei hun mewn gwyliau ar hyd Cymru, dywedodd Ms Brewer iddi weld cyfle i ddathlu gwaith llenorion gorllewin Cymru.
Roedd trefnu gŵyl hefyd yn ateb y galw ehangach gan lenorion a darllenwyr lleol.
"Mae gwyliau'n bwysig, a dwi'n teimlo bod mwy o ddiddordeb gan bobl mewn llyfrau a llenyddiaeth, a bod y byd llenyddol yn rhywbeth sy'n dipyn haws bod yn rhan ohono erbyn hyn, diolch i dechnoleg a phob math o bethau.
"Fe wnaethom hefyd gynnal gweithdai yn rhan o'r ŵyl er mwyn cynnwys pobl, er mwyn annog pobl i 'sgrifennu a dod yn rhan o'r peth."
'Croeso cynnes'
Dywedodd Ms Brewer i'r ŵyl dderbyn "croeso cynnes" ac i'r gymuned leol - gan gynnwys pwyllgor neuadd goffa Aberaeron, lle cynhaliwyd y digwyddiadau - fwrw ati i gefnogi.
"Roedd pob awdur neu lenor o orllewin Cymru, rhai yn 'sgrifennu'n Gymraeg ac eraill yn Saesneg, ac mae'r cyhoeddwyr hefyd o Gymru.
"Am ein bod mewn lleoliad hyfryd rhwng y bryniau, mewn man anodd ei gyrraedd, ni'n gorfod bod yn hunangynhaliol yn y rhan yma o'r byd, a threfnu digwyddiadau ein hunain.
"Mae 'na ddigon o ddigwyddiadau sy'n tynnu pobol i mewn, ond i ni, roeddem am ddathlu pwy a beth oedd yma a rhoi llwyfan i'r lleisiau lleol."
Mae Ms Brewster a'i chyd-drefnwyr hefyd yn benderfynol o weld yr ŵyl yn dychwelyd y flwyddyn nesaf.
"Arbrawf oedd yr ŵyl hon, byddwn bendant yn trefnu gŵyl flynyddol, gan ein bod wedi cael cymaint o gefnogaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2018