Cofeb i ddathlu ieithoedd rhyngwladol
- Cyhoeddwyd

Bydd y gwaith yn dechrau ar y gofeb ddydd Llun
Bydd gwaith yn dechrau ddydd Llun ar gofeb yn y brifddinas a fydd yn dathlu ieithoedd rhyngwladol.
Sefydlwyd y pwyllgor i wneud y gwaith ei sefydlu 10 mlynedd yn ôl ac fe fydd y gofeb yn cael ei chodi ym Mharc Grangemoor, yn Grangetown.
Y bwriad yw darparu man i bobl ymweld ag ef ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Famiaith sy'n digwydd bob blwyddyn ar Chwefror 21.
Mae'r diwrnod yn hybu amrywiaeth ieithyddol ac addysg amlieithog ac yn codi ymwybyddiaeth o ddiwylliannau a thraddodiadau gwahanol ar draws y byd.
"Mae sawl dinas wedi codi cofeb debyg er mwyn dathlu y diwrnod," meddai Mohammed Sarul Islam, sy'n aelod o'r pwyllgor.
Mae'r pwyllgor wedi codi £125,000 tuag at y gwaith. Mae'r gofeb wedi cael sêl bendith y cyngor ac mae'r gwaith yn dechrau ddydd Llun.
Y bwriad yn wreiddiol oedd lleoli'r gofeb yng Ngerddi Clare yng Nglan-yr-afon ond roedd yna wrthwynebiad ymhlith rhai trigolion lleol.
Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn Ionawr 15 flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2017