Cyngor i drafod cynllun ailddatblygu pier Y Mwmbwls

  • Cyhoeddwyd
Mynedfa pier y Mwmbwls
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r atyniad hanesyddol wedi bod yno ers 120 o flynyddoedd

Bydd cynlluniau i wario miliynau o bunnau ar ddatblygu ardal pier Y Mwmbwls yn cael eu trafod gan gynghorwyr yn ddiweddarach.

Mae perchennog y pier, Ameco, am adeiladu gwesty, siopau a fflatiau moethus ar y tir eiconig.

Er bod caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith eisoes wedi ei roi, ni fydd modd i gynghorwyr roi sêl bendith terfynol heb ganiatâd gweinidogion ym Mae Caerdydd.

Dros y penwythnos derbyniodd Cyngor Abertawe lythyr yn gorchymyn iddynt beidio â rhoi caniatâd cynllunio "heb iddo gael ei awdurdodi gan weinidogion Cymru".

Cynllun dadleuol

Mae cynlluniau uchelgeisiol perchnogion y pier wedi corddi'r dyfroedd yn y pentref.

Mae ymgyrchwyr yn pryderu y byddai fflatiau'n anharddu'r "olygfa hyfryd" ac yn honni bod y datblygiad ar dir gwarchodedig.

Ffynhonnell y llun, Amerco
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau i ddatblygu pier Y Mwmbwls yn cynnwys adeiladu gwesty a fflatiau

Yn ôl cwmni Ameco, mae'r cynllun yn ganolog i waith atgyweirio'r atyniad hanesyddol.

Bydd gan gynghorwyr yr hawl i allu trafod a gwrthod y cynllun yn ystod cyfarfod y pwyllgor cynllunio.

Ond ni fyddan nhw'n gallu rhoi sêl bendith i'r cynllun yn dilyn yr ymyrraeth gan weinidogion Bae Caerdydd.