Llywodraeth yn atal datblygiad pier y Mwmbwls am y tro

  • Cyhoeddwyd
Delwedd o'r fflatiau ger pier y MwmbwlsFfynhonnell y llun, Ameco
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cynlluniau i ddatblygu pier y Mwmbwls yn cynnwys adeiladu gwesty a fflatiau

Mae cynlluniau dadleuol i ddatblygu pier y Mwmbwls wedi cael eu hatal am y tro gan Lywodraeth Cymru.

Derbyniodd Cyngor Abertawe lythyr oddi wrth Gyfarwyddiaeth Gynllunio'r llywodraeth yn gorchymyn iddynt beidio â chaniatáu caniatâd cynllunio "heb iddo gael ei awdurdodi gan weinidogion Cymru".

Dywed wrth Bennaeth Cynllunio'r cyngor bod y llythyr yn "atal y cyngor rhag caniatáu'r cynllun" ond nad yw'n eu hatal rhag "gwrthod caniatâd cynllunio".

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am sylw.

Mae perchennog y pier, Amerco, yn honni bod y cynllun £35m, sy'n cynnwys adeiladu fflatiau, yn ganolog i waith atgyweirio'r atyniad hanesyddol.

Ond mae aelodau o Grŵp Gweithredu'r Mwmbwls yn pryderu y byddai fflatiau'n anharddu'r "olygfa hyfryd" ac yn honni y byddai atyniadau fel pwll nofio'n well ar gyfer ymwelwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r atyniad hanesyddol wedi bod yno ers 120 o flynyddoedd

Yr wythnos diwethaf, honnodd ymgyrchwyr bod y datblygiad ar dir gwarchodedig, gyda Cyngor Abertawe wedi gwneud camgymeriad a drysu ffiniau.

Mae BBC Cymru ar ddeall fod y cyngor wedi "gwrthod" yr honiadau hynny.

Camgymeriad wrth ddigideiddio

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn ystyried cynlluniau i adeiladu gwesty a fflatiau ger pier y Mwmbwls, gan feddwl eu bod tu hwnt i ffiniau ardal warchodedig.

Ond mae ymgyrchwyr o'r farn bod map y cyngor yn anghywir, gyda map maen nhw wedi ei ddarganfod yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew yn dangos bod y tir gwarchodedig o fewn y cynlluniau arfaethedig.

Maen nhw'n honni bod yr awdurdod wedi gwneud "camgymeriad" wrth ddigideiddio'r map.

Mae'r cyfreithwyr ar ran yr ymgyrchwyr, Geldards, yn credu y byddai penderfyniad gan Gyngor Abertawe i ganiatáu'r cynllun yn "anghyfreithlon" ac y byddai'r awdurdod yn agored i heriau cyfreithiol.

Roedd pwyllgor cynllunio Cyngor Abertawe wedi trefnu trafod y cais ar gyfer pier y Mwmbwls ddydd Gwener, ond mae'n bosib y bydd hynny'n cael ei ail-drefnu yn sgil y llythyr.