Gwasanaethau iechyd digidol 'angen sylw ar frys'

  • Cyhoeddwyd
Tablet a ffôn symudolFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae peryg gwirioneddol y gall pobl beidio derbyn gwasanaethau iechyd oherwydd diffyg mynediad i'r we a diffyg sgiliau digidol, yn ôl adroddiad.

Dyweda'r adroddiad - Cynhwysiad Digidol mewn Iechyd a Gofal yng Nghymru - nad yw un o bob pedwar person sydd â salwch hir dymor, anabledd neu wendid yn defnyddio'r we.

Yn ôl Karen Lewis, Cyfarwyddwr Cymunedau a Chynhwysiad Canolfan Cydweithredol Cymru (CCC), mae gwahaniaethu digidol ym maes iechyd yn fater sydd "angen sylw ar frys".

Cafodd yr adroddiad ei lansio ddydd Mercher, yr un pryd â chyhoeddiad yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, bod buddsoddiad newydd o £3m er mwyn hybu cynhwysiad digidol.

Mae'r adroddiad, gafodd ei gomisiynu gan y CCC ac Ymddiriedolaeth Carnegie UK, yn dweud fod 25% o ddynion a 32% o fenywod rhwng 65 a 74 oed ddim yn defnyddio'r rhyngrwyd, i gymharu â dim ond 3% o unigolion rhwng 16 a 49.

Ychwanegodd Ms Lewis: "Mae'r twf sydyn mewn technoleg ddigidol yn cynnig cyfleoedd trawsnewidiol i bobl gael chwarae rôl fwy blaenllaw yng ngofal eu hunain, yn ogystal â rhyngweithio gyda gwasanaethau y maen nhw eisoes yn ei ddisgwyl mewn agweddau eraill o fywyd.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Vaughan Gething byddai cynyddu cynhwysiad digidol yn galluogi pobl i reoli eu cyflyrau yn well

"Ond, rydyn ni dal i weld mai nifer o'r unigolion sydd angen gofal fwyaf yw hefyd y rhai sydd â'r sgiliau digidol gwanaf, gyda diffyg mynediad, sgiliau, diddordeb, chymhelliant a hyder ymysg y rhesymau eu bod nhw ddim yn mynd ar-lein," meddai Ms Lewis.

Mae sawl enghraifft o arfer da wedi eu hamlygu yn yr adroddiad gan gynnwys cynllun Arwyr Digidol, lle mae pobl ifanc yn cyflwyno technoleg ddigidol i bobl hŷn.

Yn ôl y CCC mae'r cynllun yma yn gallu arwain at ganlyniadau "ysbrydoledig a thrawsnewidiol".

'Lleihau'r baich ar y GIG'

Er bod sawl Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn gwneud gwaith "hanfodol" i daclo gwahaniaethu digidol drwy hyfforddi staff a chynnig cefnogaeth ar-lein, noda'r adroddiad nad yw'r mwyafrif o fyrddau iechyd yng Nghymru yn sôn am y broblem o gwbl fel rhan o'u strategaethau digidol.

Dywedodd Mr Gething: "Fel mae'r adroddiad yma yn dangos, mae cynyddu cynhwysiad digidol yn gallu cael effaith gadarnhaol ar iechyd.

"Mae cynnig y sgiliau sydd ei angen ar bobl i dderbyn yr wybodaeth a'r gwasanaethau cywir, yn galluogi pobl i reoli eu cyflyrau yn well, a lleihau'r baich ar wasanaethau'r GIG."

Ychwanegodd: "Dyma pam rydw i'n cyhoeddi £3m ychwanegol dros dair blynedd i gryfhau cynhwysiad digidol ymysg gweithwyr iechyd a'r cyhoedd."