Hedfan adre i Cribyn o'r Rhyfel Mawr... mewn Fokker
- Cyhoeddwyd
Fe ddaeth Capten Simon Jones, mab fferm Frongelyn yn Cribyn ger Llanbedr Pont Steffan, adref at ei deulu yn ei awyren yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn rhoi syrpreis i'w ffrindiau a phobl y pentref, ar ôl cyfnod fel peilot yn Ffrainc a'r Almaen.
Dros un penwythnos fe gasglodd miloedd o bobl y fro i weld yr awyren Fokker oedd wedi ei chipio oddi ar yr Almaenwyr.
Cychwynodd ddiddordeb Simon mewn awyrennau drwy ryfeddu ar sut roedd yr adar yn medru hedfan mor ddi-drafferth, cyn gweld peilot yn hedfan am y tro cyntaf uwchben dinas Caerdydd a glanio ar gaeau Llandaf.
Roedd yn un o aelodau gwreiddiol yr RAF yn ogystal â bod yn beilot a oroesodd y rhyfel pan ar un adeg doedd dim disgwyl i beilot fyw yn hirach na phythefnos.
Un penwythnos fe benderfynodd Capten Simon Jones ddychwelyd nôl i fferm y teulu gyda'i awyren.
Yn y darn sain yma mae Trystan ab Ifan yn olrhain hanes y gŵr hynod yma o Geredigion oedd â'i fryd ar fod yn beilot yn y Rhyfel Mawr
Drwy gyfweliadau gyda aelodau teulu'r peilot mentrus hwn, ynghyd â'i eiriau ef ei hun, cawn gipolwg ar fywyd un o arloeswyr hedfan 100 mlynedd yn ôl.
Hefyd o ddiddordeb: