Achos cam-drin: 'Pedwar neu bump yn cael rhyw â'm ffrind'

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron, Yr WyddgrugFfynhonnell y llun, Google

Mae rheithgor yn achos pedwar dyn sydd wedi eu cyhuddo o dreisio a masnachu rhyw wedi clywed tystiolaeth gan un o'r merched sy'n dweud iddi gael ei cham-drin.

Dywedodd yr achwynydd, oedd yn 15 oed ar y pryd, y byddai hi a ffrind arall yn cael eu casglu gan y dynion o'r cartref plant yn Wrecsam ble roedden nhw'n byw.

Mae John Delaney, John Purcell, Todd Wickens a John McGrath yn wynebu cyfanswm o 19 cyhuddiad o gam-drin, a hynny'n dyddio rhwng Rhagfyr 2011 ac Ebrill 2012.

Mewn tystiolaeth fideo gafodd ei dangos yn y llys dywedodd y ferch y byddai'r dynion, sydd oll o'r gymuned deithwyr, yn mynd â'r merched i westai cyfagos ble bydden nhw'n cael rhyw gyda nhw.

'Dihangfa'

Ar un achlysur, meddai, roedd hi'n cael rhyw gydag un o'r diffynyddion pan edrychodd hi draw a gweld pedwar neu bump o ddynion yn cael rhyw gyda'i ffrind tra'i bod hi'n sâl ar ôl yfed alcohol.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug y byddai'r merched yn cael eu gadael mewn llefydd anghysbell os nad oedden nhw'n cael rhyw gyda'r dynion.

"Roedden nhw'n gwybod faint oedd ein hoedran ni," meddai.

Dywedodd y byddai'r dynion yn mynd â nhw i westai ble roedd modd mynd i ystafelloedd heb orfod pasio'r dderbynfa, ac felly doedd gan staff ddim syniad faint o ddynion oedd yn yr ystafell.

Llys y Goron, Yr Wyddgrug

Pan ofynnwyd iddi pam eu bod nhw wedi cael rhyw gyda'r dynion, dywedodd: "Bydden ni'n dweud 'ia' achos fyddai o ddim yn stopio, roeddech chi'n dweud 'ia' er mwyn stopio nhw rhag plagio chi.

"Pam oeddwn i'n rhoi fy hun mewn sefyllfa roeddwn i'n ei gasáu cymaint? Ond roedd o'n ddihangfa o'r cartref ac achos yr yfed doeddech chi ddim yn meddwl.

"Roedden ni'n mynd 'nôl achos fod o'n normal, dwi ddim yn gwybod pam."

Ychwanegodd y byddai un o'r dynion, John Delaney, yn "ceryddu'r dynion eraill am drio cysgu efo fi ond fo fyddai'n dod â nhw 'nôl".

"Dwi'n meddwl ei fod o'n chwarae gemau ac esgus fod ganddo fo ots," meddai.

'Cywilydd'

Wrth gael ei chroesholi yn y llys yn ddiweddarach ddydd Mercher fe wnaeth y ddynes, sydd bellach yn 22 oed, wadu ei bod hi wedi esgus ar ei thudalen Facebook ei bod yn hŷn nag yr oedd hi.

Gwadodd hefyd iddi ddweud wrth Mr Delaney ei bod hi'n 19 oed, pan oedd hi'n 15 mewn gwirionedd.

Dywedodd ei bod hi wedi treulio tipyn o amser gydag aelodau o'r gymuned deithwyr pan oedd hi yn St Helens a Blackburn yn Lloegr, cyn iddi symud i'r cartref ger Wrecsam.

Ond mynnodd nad oedd hi wedi esgus wrth Mr Delaney ei bod hi'n dod o deulu o deithwyr.

Ychwanegodd ei bod wedi crïo o flaen staff a phlant yn y cartref ym Mrymbo ar ôl dychwelyd o nosweithiau gyda'r dynion.

"Roedden nhw'n gwybod mod i'n treulio amser gyda theithwyr," meddai, ond dywedodd nad oedd hi wedi datgelu'r manylion llawn iddyn nhw am fod "cywilydd" ganddi.

Mae John Delaney, John Purcell a Todd Wickens yn gwadu treisio a masnachu rhyw, ac mae John McGrath yn gwadu treisio. Mae'r achos yn parhau.