'Lluniau erotig' ar hysbysfwrdd yng nghanol Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
cartwn erotigFfynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y lluniau anweddus ymddangos ar y sgrin am ychydig funudau

Mae perchennog hysbysfwrdd electronig yn Aberystwyth wedi dweud ei fod yn "hynod anffodus" fod delweddau anweddus wedi cael eu dangos arno dros y penwythnos.

Dywedodd perchennog y sgrin, Shaun Jones, mai "amseru erchyll" oedd ar fai bod lluniau cartŵn anweddus wedi cael eu dangos ar yr hysbysfwrdd ger gorsaf drenau'r dref.

Yn ôl Mr Jones, fe wnaeth problem gyda'r peiriant olygu bod pobl yn medru ei ddefnyddio i bori a chwilio'r we.

Cafodd y delweddau eu tynnu oddi ar y sgrin funudau wedi iddyn nhw ymddangos.

'Fandaliaeth'

Yn ôl y Cambrian News, delweddau tebyg i erotica Siapaneaidd wedi'i animeiddio gafodd eu dangos ar yr hysbysfwrdd.

Roedd y sgrin yn un o dair sydd wedi'u gosod yn y dref i hybu busnesau a chynnig cyngor i ymwelwyr.

Dywedodd Mr Jones mai swyddog cymorth cymunedol roddodd gwybod iddo am y digwyddiad ddydd Sul.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hysbysfwrdd tu allan i'r orsaf drenau fel arfer yn dangos gwybodaeth i ymwelwyr

"Rydyn ni'n ymfalchïo yn y sgriniau yma. Roedd yn weithred o fandaliaeth," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Cawsom adroddiad fod delweddau pornograffig yn cael eu dangos ar sgrin interactif yn Heol Alexandra, Aberystwyth am tua 17:30 ddydd Sul, 4 Tachwedd.

"Cafodd y sgrin ei orchuddio yn sydyn ac fe gafodd peirianwyr eu galw i ddiffodd y sgrin.

"Mae swyddogion yn ymchwilio a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â ni ar 101."