Stereoteipio: CBDC yn canmol pêl-droedwraig 'ddewr'

  • Cyhoeddwyd
Darcie Barry
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Darcie Barry bod pobl wedi ei galw'n lesbian am chwarae pêl-droed

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi canmol merch "ddewr" wedi iddi siarad allan ynglŷn â stereoteipio mewn gwersi chwaraeon.

Dywedodd Darcie Barry, 13 oed o Gwmbrân, bod rhieni a phlant eraill wedi galw enwau arni pan oedd hi'n chwarae i'w thîm lleol.

Ychwanegodd bod athrawon ysgol hefyd wedi ei hatal rhag chwarae pêl-droed mewn gwersi ymarfer corff gan mai "gêm i fechgyn yw hi".

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi dweud ei bod hi'n "drist" bod gwahaniaethu ar sail rhyw yn dal i ddigwydd mewn gwersi addysg gorfforol.

'Llais i ferched'

Ddydd Mercher cafodd Darcie gyfle i ymarfer gyda thîm merched Cymru yng Nghasnewydd, ar ôl siarad am ei phrofiadau.

Dywedodd Caroline Spanton, pennaeth datblygiad pêl-droed Ymddiriedolaeth CBDC, y gallai esiampl Darcie arwain at newid mewn ysgolion.

"Un o'r pethau mawr 'dyn ni'n edrych arno a dweud y gwir yw defnyddio pobl ifanc fel Darcie i fod yn ymgyrchwyr - nhw yw'r bobl ifanc fydd yn newid pethau pan mae'n dod at stereoteipio rhyw," meddai.

"Rydyn ni'n ymwybodol nad eithriad yw achos Darcie. Rydyn ni'n gwybod fod galw cynyddol i ferched chwarae mwy o bêl-droed, yn enwedig mewn ysgolion.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Caroline Stanton fod Darcie yn "ddewr" wrth siarad am ei phrofiadau

"Felly rydyn ni'n adolygu'r heriau a'r rhwystrau sy'n wynebu merched o fewn ysgolion i sicrhau ein bod ni'n creu mwy o gyfleoedd.

"Mae angen gweld newid. Mae gan bêl-droed y cyfle yna a dy'n ni ddim jyst yn siarad am bêl-droed, 'dyn ni'n siarad am faterion cymdeithasol a stereoteipio rhyw a dwi'n meddwl y gallwn ni ddefnyddio grym pêl-droed i ddangos bod gan ferched ifanc lais."

Wedi i Darcie Barry siarad am ei phrofiadau, dywedodd y Comisiynydd Plant Sally Holland fod gwahaniaethu ar sail rhyw mewn gwersi chwaraeon yn adlewyrchu rhagfarnau ehangach o fewn cymdeithas.

"Dwi'n gwybod y gallwn ni newid, dwi'n gwybod y gallwn ni wneud yn well," meddai.